Os hoffech chi wybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi’n credu bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch wneud cais am Ddatganiad o'r Rhesymau. Mae’n rhaid i chi wneud y cais hwn o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol drwy anfon llythyr i'r Swyddfa Budd-daliadau (gweler y cyfeiriad isod), neu anfon e-bost .
Os hoffech chi wneud cais i swyddog ailystyried y penderfyniad gwreiddiol fe allwch chi naill ai gysylltu â’r Swyddfa Budd-daliadau (gweler y cyfeiriad isod) yn ysgrifenedig, neu anfon e-bost o fewn 1 mis calendr i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol (neu i’r dyddiad a roddwyd i chi os ydych chi wedi gwneud cais am Ddatganiad o'r Rhesymau) a gofyn i swyddog ailystyried y penderfyniad. Nodwch yn llawn eich rhesymau dros feddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Bydd swyddog gwahanol i’r swyddog a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol yn ailystyried eich hawl i ostyngiad Treth y Cyngor, a byddwch yn derbyn gwybodaeth am y canlyniad yn ysgrifenedig.
Os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl i’r penderfyniad gael ei ailystyried, gallwch apelio at Dribiwnlys Prisio Cymru. Yma fe gewch hyd i ganllawiau a Ffurflen Apelio.
Cyfeiriad y Swyddfa Budd-daliadau ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig:
Yr Adain Fudd-daliadau
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN