Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Budd-daliadau Addysg Grant Hanfodion Ysgol / Grant Gwisg Ysgol ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Grant Hanfodion Ysgol / Grant Gwisg Ysgol ym Mwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
Pwy sy'n gymwys i gael cymorth gyda chostau dillad ysgol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a sut i wneud cais.
start content

Pwy syn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol / Grant Gwisg Ysgol ym Mwrdeistref Sirol Conwy a beth ywr meini prawf?

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Grant Hanfodion Ysgol ac mae’r cyfraddau ar gyfer blwyddyn ysgol 2024-2025 hyd at 31 Mai 2025 fel a ganlyn:

  • £125 ar gyfer disgyblion Derbyn mewn ysgol gynradd
  • £125 ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ym Mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6 
  • £200 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7
  • £125 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym Mlynyddoedd 8, 9, 10 ac 11


Disgyblion 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 a 15 oed mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.

Nod Grant Hanfodion Ysgol yw helpu pobl i brynu gwisg ysgol, gan gynnwys côt ac esgidiau, gwisg chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau, cyfarpar fel bag ysgol a deunydd ysgrifennu, gliniadur a llechen (os na fedr yr ysgol roi benthyg yr offer i'r disgybl), gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys pethau fel y sgowtiaid, y geidiau, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawnsio, offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau’r cwricwlwm newydd, fel dylunio a thechnoleg, ac offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol ar gyfer pethau fel dysgu yn yr awyr agored. e.e. dillad glaw


Bydd y Grant Hanfodion Ysgol i blant Derbyn a Blynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 ac 11 ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant yn mynd i ysgol o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy ac sy’n cael unrhyw beth o’r rhestr isod neu'r rhai sy'n cael eu hystyried yn y categori Dim Hawl i Arian Cyhoeddus.

  • Cymhorthdal Incwm*
  • Lwfans Ceisio Gwaith Cysylltiedig ag Incwm*
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, yn unol ag asesiad Cyllid a Thollau, yn fwy nag £16,190.
  • Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Cynhwysol â chyfyngiad enillion net o £7,400 Ebrill

(*Mae disgyblion sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm neu Gredyd Cynhwysol yn eu rhinwedd eu hunain hefyd yn gymwys)

Os ydych wedi cael Grant Hanfodion Ysgol yn y gorffennol ar gyfer eich plentyn / plant (ac os ydynt yn cael Prydau Ysgol Am Ddim ar hyn o bryd), nid oes gofyn i chi gwblhau ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai bod eich amgylchiadau yn newid.

Gwneud cais

Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Os oes angen ffurflen bapur arnoch chi, neu unrhyw gymorth gyda llenwi’r ffurflen; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch gysylltu gydag aelod o’r tîm ar 01492 576491.

Beth fydd yn digwydd i’m gwybodaeth?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi sy’n berthnasol i’ch cais. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gydag unrhyw drydydd parti arall oni bai fod y gyfraith yn gofyn i ni wneud hynny. I gael mwy o wybodaeth am y modd rydym yn ymdrin â gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ar www.conwy.gov.uk/garb/preifatrwydd

end content