CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Mae Amlosgfa Bae Colwyn wedi cyflawni safon Aur yn sgil asesiad blynyddol Siarter y Galarwyr o amlosgfeydd, a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM).
Bu’r asesiad yn bwrw golwg ar nodweddion allweddol y gwasanaeth, gan gynnwys agweddau cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae’r hawliau yn y siarter hon ar gael ym mhob mynwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn Amlosgfa Bae Colwyn.
CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.