CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Rydym ni wedi bod yn helpu teuluoedd i drefnu amlosgiadau yn Amlosgfa Bae Colwyn ers 1957.
Gwybodaeth am yr amlosgfa | Dewisiadau amlosgi | Amlosgiadau: cwestiynau ac atebion
Mae Amlosgfa Bae Colwyn wedi ei lleoli ar dir Mynwent Bron y Nant a gellir ei chyrraedd yn rhwydd o ffordd yr A55, Cyffordd 20, ac mae digon o le parcio.
Mae safle’r amlosgfa yn cynnwys dau gapel – pob un â lle i tua 100 o bobl eistedd, ystafell aros, cyfleusterau toiled ac ystafell goffa lle mae’r Llyfrau Coffa yn cael eu harddangos. Yn y capel mae yna system dolen sain.
Gwylio'r arch yn cael ei gosod
Mae Amlosgfa Bae Colwyn yn estyn croeso i deuluoedd (hyd at 6 o bobl) i wylio’r arch yn cael ei rhoi yn y ffwrnais amlosgi.
Os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth yma, rhowch wybod i ni neu i’ch trefnydd angladdau ymlaen llaw er mwyn i ni wneud y trefniadau. Ni allwn ddweud a fydd yr arch yn cael ei hamlosgi yn syth ar ôl y gwasanaeth, ac mae’n bosib’ y bydd oedi er mwyn hwyluso’r trefniadau i wylio’r gosod. Os ydych chi’n poeni am hyn, yna rydym ni’n awgrymu eich bod chi’n archebu gwasanaeth yn gynnar yn y dydd.
Mae ein holl ffioedd gwasanaeth yn cynnwys amlosgi, ffi canolwr meddygol, gordal amgylcheddol a blwch cludo llwch. Mae’r holl lwch ar gael i’w gasglu'r bore canlynol neu’r un diwrnod wrth drefnu ymlaen llaw.
Amlosgi uniongyrchol
Os ydych chi’n dewis amlosgi uniongyrchol, ni fydd gwasanaeth traddodi na lle i alarwyr. Gall y dewis yma fod yn addas i chi os ydych chi’n bwriadu trefnu gwasanaeth coffa nes ymlaen.
Bydd eich trefnwr angladdau dewisol yn dod â’ch anwylyd o’u capel gorffwys i’r amlosgfa'r peth cyntaf yn y bore. Mae croeso i chi ddod i’r amlosgfa i weld yr arch, ond nid oes mynediad i’r capel. Bydd yr arch yn cael ei hamlosgi ar unwaith a bydd y llwch ar gael i’w gasglu yn hwyrach y diwrnod hwnnw.
Amlosgi cost isel
Mae ein gwasanaeth amlosgi cost isel yn cychwyn am 9am neu 9:30am, gyda gwasanaeth 20 munud byrrach.
Gallwch ychwanegu elfennau personol am ffi ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cerddoriaeth, teyrngedau gweledol a gwe ddarlledu. Mae cofroddion digidol o bob gwasanaeth ar gael gan ein darparwr cyfryngau. Cysylltwch â’ch trefnwr angladdau i gael mwy o wybodaeth.
Gwasanaeth safonol
Mae’r gwasanaeth safonol yn cynnwys gwasanaeth amlosgi ar eich dewis amser, sydd fel rheol yn cael ei arwain gan arweinydd crefyddol, gweinydd neu gynrychiolydd y teulu. Mae'r gwasanaeth yn para 45 munud (gan gynnwys cyrraedd a gadael).
Gallwch ychwanegu elfennau personol am ffi ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cerddoriaeth, teyrngedau gweledol a gwe ddarlledu. Mae cofroddion digidol o bob gwasanaeth ar gael gan ein darparwr cyfryngau. Cysylltwch â’ch trefnwr angladdau i gael mwy o wybodaeth.
Gwasanaeth ffarwelio
Mae ein gwasanaeth ffarwelio yn addas i ychydig o’r teulu agos dreulio 15 munud yn y capel yn gwrando ar gerddoriaeth o’u dewis.
Nid yw hwn yn wasanaeth llawn. Mae’r capel ar gael am 15 munud (gan gynnwys dod i mewn a gadael) a hyd at 20 o fynychwyr. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael am 12:30pm, 12:45pm a 1:30pm.
Bydd y dewis hwn yn rhoi cyfle i deulu a ffrindiau agosaf ddweud hwyl fawr heb ficer na gweinydd yn arwain y gwasanaeth. Gallwch chwarae cerddoriaeth i gyd-fynd â moment o fyfyrdod ac mae hyn wedi’i gynnwys yn y gost.
Am fwy o wybodaeth neu i drafod eich gofynion, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.
content
Os ydych chi’n cynnal gwasanaeth cyn yr amlosgiad, gall galarwyr naill ai aros yn y portsh neu fynd i eistedd yn y capel. Pan fydd y trefnydd angladdau yn cyrraedd gyda’r arch a’r prif alarwyr, bydd gweinydd yr amlosgfa yn gwirio’r plât enw ac yn derbyn yr arch, a fydd yn cael ei throsglwyddo i droli. Bydd yr arch yn cael ei symud i’r capel a’i rhoi ar yr elor (llwyfan ym mhen blaen y capel) yn barod ar gyfer dechrau’r gwasanaeth.
Yn ystod y gwasanaeth, bydd y corff yn cael ei draddodi. Pan fyddwch chi’n trefnu’r gwasanaeth, byddwch yn gallu dewis cau llenni Capel yr Amlosgfa neu eu cadw ar agor.
Ar ôl symud yr arch i’r ystafell draddodi, bydd y plât enw yn cael ei wirio a bydd cerdyn adnabod yn cael ei roi wrth ochr yr arch ac yna’r gweddillion cyn y traddodi olaf.
I gydymffurfio â rheolau amlosgi, mae’n rhaid i’r arch (yn cynnwys y mân daclau a’r addurniadau) fod yn addas ar gyfer amlosgi, ac mae’n rhaid ei rhoi yn y ffwrnais amlosgi yn yr un cyflwr ag yr oedd pan gyrhaeddodd yr amlosgfa. Mae hyn yn golygu nad oes modd rhoi teyrngedau blodau gyda’r arch wrth amlosgi.
Ar ôl yr amlosgi, bydd y gweddillion yn cael eu tynnu allan o’r ffwrnais amlosgi ac yn cael eu trosglwyddo i ardal drin. Rydym ni’n cymryd llawer o ofal wrth wneud hyn i sicrhau bod y gweddillion yn cael eu cadw ar wahân ac yn cael eu hadnabod yn gywir. Byddwn yn gwaredu metelau yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r teulu ymlaen llaw. Caiff gweddillion wedi’u hamlosgi eu cadw mewn cynhwysydd ar wahân gyda cherdyn adnabod, yn barod ar gyfer eu gwasgaru neu eu claddu.
content
Yn dilyn y gwasanaeth, mae’r arch yn cael ei throsglwyddo i'r fynwent er mwyn i'r amlosgiad ddigwydd. Unwaith mae’r amlosgiad wedi digwydd yr enw cyffredin ar y gweddillion sydd wedi eu hamlosgi ydi llwch.
content
Mae dewisiadau amrywiol ar gyfer lle i roi’r gweddillion sydd wedi eu hamlosgi i orffwys yn derfynol fel eu gwasgaru, claddu mewn bedd, gosod mewn claddgell neu fynd â nhw adref. Bydd eich trefnwr angladdau neu staff yr amlosgfa yn gallu eich cynghori ynglŷn â'ch dewisiadau er mwyn i chi eu hystyried yn ofalus.
content
Na. Yn gyffredinol mae cost claddu yn uwch na’r ffi sy’n cael ei chodi o amlosgi. Bydd eich trefnwr angladdau neu staff yr amlosgfa yn gallu eich cynghori ar y dewisiadau sydd ar gael a chost y dewisiadau hynny.
content
Mae pob enwad Cristnogol, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, yn caniatáu amlosgi, fel y mae Siciaid, Hindŵiaid, Parsïaid a Bwdistiaid. Mae wedi ei wahardd serch hynny gan Iddewon a Mwslemiaid.
content
Mae’r gwasanaeth ar gyfer claddu ac amlosgi yr un fath ac eithrio ffurf y brawddegau trosglwyddo. Gall y gwasanaeth ddigwydd yn eich lle addoli chi eich hun gyda gwasanaeth trosglwyddo byr yng nghapel yr amlosgfa, neu fe allwch chi gael y gwasanaeth cyfan yng nghapel yr amlosgfa. Fel arall, efallai bod seremoni sifil yn well gennych chi neu ddim gwasanaeth o gwbwl.
content
Mae’r Rheolau Amlosgi yn gymhleth ac mae nifer o bobl yn cysylltu â threfnwr angladdau a fydd yn gallu sicrhau fod yr holl ffurflenni statudol ar gyfer amlosgiadau wedi eu cael a’u cyflwyno i’r Amlosgfa.
content
Ydi. Fe all yr Ysgutor neu’r perthynas agosaf drefnu'r gwasanaeth amlosgi eu hunain. Bydd yr Amlosgfa yn rhoi cyngor ar drefnu amlosgiad heb ddefnyddio trefnwr angladdau.
content
Ydi. Mae Canllawiau Arweiniol y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) yn nodi y bydd y cynhwysydd a'r corff yn cael eu gosod yn y ffwrnais a bydd yr amlosgi’n dechrau. Ni ddylid agor na tharfu ar y cynhwysydd, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, a bryd hynny dim ond gyda chaniatâd pendant ac ym mhresenoldeb y sawl wnaeth gais am yr Amlosgi (fel arfer yr ysgutor neu’r perthynas agosaf).
content
Mae Egwyddorion Arweiniol yr ICCM yn nodi y bydd yr amlosgi yn dechrau yn ddim hwyrach na 72 awr ar ôl y gwasanaeth trosglwyddo. Fe hysbysir y sawl wnaeth y cais ar gyfer Amlosgi pan yw’n bosib na fydd yr amlosgiad yn digwydd ar yr un diwrnod.
content
Na. Mae pob amlosgiad yn cael ei wneud yn unigol.
content
Dim ond un arch ar y tro y gall amlosgwr ei derbyn,a bydd yr holl weddillion yn cael eu tynnu o’r ffwrnais cyn yr amlosgiad nesaf. Mae cerdyn adnabod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y broses ac felly’n sicrhau adnabyddiaeth gywir.
content
Na. Mae’r arch a’r corff y tu mewn yn cael eu hamlosgi gyda’i gilydd.
content
Mae Siarter y Galarwyr yr ICCM yn rhoi gwybodaeth fanwl am holl agweddau’r broses amlosgi ac yn cynnwys agweddau amgylcheddol a chymdeithasol..
CCBC31000_CONWY_CREMATORIUM_BRANDING_LOGO_PACK_FINAL-10Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01492 577733, neu anfonwch e-bost at GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk.