Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Priodasau a Phartneriaethau Sifil Rhoi rhybudd o briodas (gan gynnwys priodasau yr un rhyw)

Rhoi Rhybudd o Briodas neu Bartneriaeth Sifil


Summary (optional)
start content

Mae’r wybodaeth a ganlyn yn ymwneud â phriodasau neu bartneriaethau sifil yng Nghymru neu Loegr os yw’r ddau unigolyn:

yn 18 oed neu’n hŷn;
yn Brydeinig neu'n Wyddelig;
yn byw yng Nghymru neu Lloegr.

Os yw’r naill unigolyn o wlad tu allan i'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, bydd angen i chi ddarllen gwybodaeth ar wefan GOV.UK.

Os ydych yn priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu yn Eglwys Lloegr drwy Ostegion neu Drwydded Gyffredin, dylech gysylltu â'r Ficer ynglŷn â'r rhaghysbysiadau cyfreithiol angenrheidiol.

Pam fod rhaid i ni roi Rhybudd o Briodas?

Mae angen i Gofrestrydd Arolygol a Chofrestrydd, neu Berson ag Awdurdod, fod yn bresennol ym mhob priodas, ar wahân i'r rheiny a gynhelir mewn eglwys sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru. Mae'n bwysig felly eich bod yn gwneud yn siŵr fod y Cofrestrwyr ar gael cyn i chi gadarnhau unrhyw drefniadau eraill.

Beth yw Rhoi Rhybudd o Briodas?

Ar gyfer pob priodas (ac eithrio priodasau'r Eglwys yng Nghymru), rhaid i bob un o'r partïon mewn priodas roi rhybudd yn bersonol o'u bwriad i briodi.

Rhaid i chi a'ch partner fynychu apwyntiad mewn swyddfa gofrestru a dangos y dogfennau gofynnol. Mae'r rhybudd yn ddogfen gyfreithiol y mae'n rhaid ei llofnodi gan y person sy'n rhoi'r rhybudd. Nid oes modd i chi ofyn i ffrind neu berthynas wneud hyn ar eich rhan.

Rhaid i'ch rhybudd nodi'r lleoliad ar gyfer eich seremoni, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu rhoi enw a chyfeiriad y lleoliad i'r cofrestrydd. Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl yr apwyntiad, bydd rhaid i chi roi rhybudd newydd a thalu amdano.

Os ydych yn cael eich seremoni yn Neuadd y Dref Llandudno, dylech roi gwybod i'r cofrestrydd sy'n cymryd eich rhybudd beth yw enw'r ystafell lle cynhelir eich seremoni h.y. Ystafell Tudno neu Ystafell Conwy neu'r Neuadd Ymgynnull. Ni ddylid ei gofnodi fel "Swyddfa Gofrestru Conwy".

Ar gyfer y rhan fwyaf o briodasau neu bartneriaethau sifil, rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod llawn o rybudd yn eich swyddfa gofrestru leol. Bydd eich rhybudd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn y swyddfa gofrestru am 28 diwrnod.

Gallwch roi rhybudd mewn swyddfa gofrestru hyd at 12 mis cyn dyddiad y seremoni, ond heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod cyn dyddiad y seremoni.

Sut ydym ni'n rhoi Rhybudd o Briodas?

Rhaid i'r ddau ohonoch roi rhybudd yn y Swyddfa Gofrestru yn y Rhanbarth Gofrestru y byddwch wedi byw ynddi am y saith diwrnod llawn yn syth cyn rhoi rhybudd, waeth ymhle yr ydych yn bwriadu priodi.

Os ydych yn dod i'r wlad hon er mwyn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil, bydd eich cyfnod preswyl saith diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl i chi gyrraedd. Er enghraifft, os byddwch yn cyrraedd ar 1 Ionawr, bydd y cyfnod o saith diwrnod yn cychwyn y diwrnod canlynol, 2 Ionawr ac yn gyflawn ar 8 Ionawr. Yna gallwch roi rhybudd ar 9 Ionawr

Faint mae'n ei gostio i roi Rhybudd o Briodas?

Ewch i'n tudalen ffioedd am fwy o wybodaeth.

Pa wybodaeth fydd angen i ni ei rhoi i'r Swyddfa Gofrestru?

Pan fyddwch yn rhoi Rhybudd o Briodas, bydd arnoch angen prawf o'ch:

  • enw
  • oedran
  • cenedligrwydd
  • cadarnhad o'ch cyfeiriad
  • pasport cyfredol a dilys ar gyfer y tri phwynt cyntaf

Efallai y byddwch angen dogfennau eraill os nad oes gennych basport dilys ac y cawsoch eich geni ar ôl 1983 - holwch yn y swyddfa.

Er mwyn cadarnhau eich cyfeiriad mae angen y canlynol arnom:

  • trwydded yrru ddilys y Deyrnas Unedig neu Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
  • bil nwy, dŵr neu drydan o'r 3 mis diwethaf
  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu o'r mis diwethaf
  • bil treth y cyngor o'r 12 mis diwethaf
  • datganiad morgais o’r 12 mis diwethaf
  • cytundeb tenantiaeth presennol
  • llythyr gan eich landlord yn cadarnhau eich bod yn byw yno ac yn cynnwys enw, cyfeiriad a llofnod eich landlord dyddiedig o fewn y 7 diwrnod diwethaf

Efallai y bydd angen dogfennau gwreiddiol eraill arnoch yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft:

  • Os oes un ohonoch wedi bod yn briod o'r blaen, naill ai yn y wlad hon neu dramor, mae angen i chi ddangos dogfennau ffurfiol a gwreiddiol fel tystiolaeth eich bod yn rhydd i briodi. Nid yw dogfennau wedi'u llungopïo yn dderbyniol.
  • Os ydych wedi ysgaru yn Lloegr neu yng Nghymru, mae arnom angen gweld copi o'r archddyfarniad absoliwt ag arni stamp y llys.
  • Os ydych wedi ysgaru mewn gwlad dramor, mae arnom angen gweld y dogfennau gwreiddiol a gyhoeddwyd gan y wlad honno. Os yw'r dogfennau hynny mewn iaith dramor mae arnom angen gweld cyfieithiad i'r Saesneg ohonynt. Os nad yw'r wlad arall wedi cyhoeddi unrhyw ddogfennau, fe ddwedwn ni wrthych beth y byddai modd i ni ei dderbyn fel prawf o ysgariad.
  • Os oes un ohonoch yn weddw bydd arnom angen gweld copi ardystiedig o dystysgrif marwolaeth eich diweddar gymar.
  • Os oes un ohonoch o dan 18 mlwydd oed bydd arnom angen gweld tystiolaeth bod eich rhieni neu warcheidwad yn cytuno i'r briodas. Os yw eich rhieni wedi ysgaru mae'n bosibl y bydd arnom angen gweld gorchymyn llys sy'n rhoi gwarchodaeth drosoch i un ohonynt. Bydd y Cofrestrydd Arolygol yn eich cynghori pan wnewch apwyntiad pan ddewch i'r swyddfa.
  • Os ydych wedi newid eich enw, bydd angen i chi ddod â thystysgrif i ddangos eich bod wedi newid eich enw trwy Weithred Newid Enw.

Beth sy’n digwydd unwaith y byddwn wedi rhoi Rhybudd o Briodas?

Bydd y Cofrestrydd Arolygol yn cyhoeddi ‘Awdurdod i Briodi' 28 diwrnod llawn wedi i'r ddau barti roi Rhybudd o Briodas. Dim ond am ddeuddeng mis o’r diwrnod y bu i chi roi Rhybudd y bydd yr awdurdod i briodi'n ddilys.

 

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?