Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd a fydd yn golygu eich bod chi a'ch cartref wedi paratoi'n well pe bai argyfwng yn digwydd ac yn barod i gymryd camau adfer.
Cynlluniau rhag Argyfwng Personol/Teuluol
Mae sawl peth mae’n rhaid i chi feddwl amdanynt wrth gynllunio rhag argyfwng. Mae gwybodaeth am sut y gallwch baratoi ar gyfer argyfwng, datblygu eich cynllun argyfwng eich hun a/neu becyn argyfwng i'w cael yn y ddogfen a dolenni gwe isod. Pethau fel paratoi cynllun rhag argyfwng teuluol neu baratoi bag rhag ofn y gofynnir i chi adael eich eiddo.
Cynllun Gwydnwch Cymunedol
Gall eich cymuned baratoi Cynllun Gwydnwch Cymunedol rhag Argyfwng i sicrhau eich bod yn barod i ymateb mewn modd cydlynol os bydd argyfwng yn eich ardal chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn dilynwch y dolenni cyswllt isod neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng.
Gogledd Cymru - Paratoi ar gyfer argyfyngau (PDF)