Y cyngor ar gyfer y rhan fwyaf o argyfyngau yw:
EWCH I MEWN, ARHOSWCH MEWN, CEWCH WYBOD, fodd bynnag, os ydych wedi bod yn rhan o argyfwng, neu yn gweld digwyddiad, peidiwch â chynhyrfu a dilynwch y camau canlynol:
- Ffoniwch 999 a gofyn am yr Heddlu, Tân neu Ambiwlans
- Dilynwch gyngor yr ymatebwyr mewn argyfwng
- Byddwch yn ymwybodol o unrhyw gymdogion oedrannus neu fregus a allai fod angen eich help
- Os cewch gyngor i wneud hynny, byddwch yn barod i adael a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir
- Os nad oeddech yn rhan uniongyrchol o’r argyfwng ac yn absenoldeb cyngor neu gyfarwyddyd arall, EWCH I MEWN, ARHOSWCH MEWN a CHEWCH WYBOD.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig - peidiwch â chynhyrfu, meddyliwch yn bwyllog ac osgowch roi eich hun neu eraill mewn perygl diangen.
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru