Sesiwn galw heibio i’r cyhoedd: Dydd Iau, 23 Mai, 1pm tan 6pm
Neuadd Bentref Trefriw, Trefriw, LL27 0JH
Ynglŷn â'r prosiect
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn llwyddiannus gyda chais Cronfa Ffyniant Bro i leihau’r perygl bod Trefriw yn cael ei ynysu yn ystod digwyddiadau o lifogydd.
Ers sicrhau’r cyllid, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau ein bod yn deall achosion y llifogydd, a sut i’w leihau. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau cyfraddau llif, arolygon topograffi a gwaith dylunio.
Beth yw'r problemau?
Yn ystod tywydd garw mae Trefriw yn cael ei ynysu gan ddŵr llifogydd, gan ei wneud yn anodd cael mynediad at wasanaethau brys, ysgolion, siopau a’r gwaith.
Prif achosion llifogydd ar y B5106 yw:
- lefelau dŵr uchel yn Afon Conwy
- problemau gyda cheuffosydd cwrs dŵr o dan y B5106
Beth sy'n digwydd?
Mae’r gwaith arfaethedig i leihau llifogydd yn cynnwys:
- gwneud y ceuffosydd yn fwy a gwella eu cilfachau (2024-2025)
- codi’r B5106 uwchben lefel llifogydd Afon Conwy (2025-2026)
Bydd y cynllun hwn yn lleihau amlder cau ffyrdd a achosir gan lifogydd.
Lleoliadau
Yn ystod 2024-2025 byddwn yn gweithio ar bum ceuffos cwrs dŵr:
- Canada Fach: gwneud y geuffos yn fwy a’i sythu.
- Chwarel Cae Coch Quarry: gosod sgrin a thynnu cerrig mawr, gwneud y geuffos yn fwy ar draws mynedfa’r chwarel a rhoi pibellau newydd o dan y ffordd.
- Coed Gwydyr (gogledd): gwneud y geuffos yn fwy a sythu’r gilfach.
- Coed Gwydyr (de): gwneud y geuffos o dan y B5106 yn fwy, a chasglu gorlifiadau o’r ffosydd ar Trefriw Terrace i ddraen priffordd newydd.
- Glan Aber: gwneud y geuffos yn fwy a sythu’r gilfach.
Yn ystod 2025-2026 rydym yn bwriadu codi’r B5106 yn y mannau isel sy’n mynd o dan lefelau llifogydd afon.
Map y lleoliadau
Map y gwyriadau