Rydym yn derbyn rhagolygon y tywydd yn ddyddiol drwy gydol y gaeaf; mae’r rhagolygon hyn yn benodol i Sir Conwy. Mae'r halen yn cael ei ddosbarthu yn ystod cyfnod 2½ - 3 awr yn y nos ac un arall yn y bore pan fydd rhagolygon o rew neu amodau rhewllyd. Mae ein holl benderfyniadau ynglŷn â graeanu yn cael eu gwneud er lles diogelwch ar y ffyrdd, ac maent yn seiliedig ar ragolygon y tywydd.
Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf
Pan fydd rhagolygon o eira, bydd Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf, gan gynnwys prif lwybrau traffig, prif lwybrau bysiau a llwybrau ar gyfer y gwasanaethau brys yn cael halen arnynt ymlaen llaw i gadw'r rhwydwaith priffyrdd ar agor. Ni fydd Ffyrdd â Blaenoriaeth Eilaidd megis isffyrdd a ffyrdd ystâd fel arfer yn cael halen arnynt oni bai bod amodau yn ddifrifol ac yn debygol o barhau am sawl diwrnod, ac wedyn dim ond os yw'r adnoddau ar gael ar ôl delio â Ffyrdd Blaenoriaeth Gyntaf.
Mewn amodau eithafol o eira trwm, cyflogir contractwyr preifat ac amaethyddol i helpu i glirio'r eira.