Mae'n drosedd gadael i gi fod allan o reolaeth ac yn beryglus – yn gyhoeddus neu'n breifat.
Ystyrir bod ci allan o reolaeth os yw’n:
- anafu rhywun
- gwneud i rywun fod ofn y gallai’r ci eu hanafu
Gall llys hefyd benderfynu bod eich ci allan o reolaeth ac yn beryglus os yw’n:
- ymosod ar anifail rhywun, neu
- mae perchennog anifail arall yn credu y gallent gael eu hanafu pe baent yn ceisio stopio eich ci rhag ymosod ar eu hanifail nhw
Cofiwch, mae gan ffermwr yr hawl i ladd eich ci os yw’n poeni eu da byw.
Os ydych yn gweld ci sy’n fygythiol neu allan o reolaeth, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 neu roi gwybod ar-lein.