Traeth Llanfairfechan | Maes hamdden Llanfairfechan
Rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill
- Gallwch fynd â’ch ci i unrhyw ran o draeth Llanfairfechan.
Rhwng 1 Mai a 30 Medi
- Ni chaniateir cŵn ar y darn o’r traeth sy’n ymestyn rhwng y brif lithrfa a cheg yr afon, fel y dangosir mewn coch ar y map.
Gwaharddiad gydol y flwyddyn
- Ni chaniateir i gŵn fynd i mewn i gae pêl-droed, lawnt fowlio, pwll nofio, cyrtiau tennis a’r ardal chwarae plant, fel y dangosir mewn coch ar y map.
Cŵn ar dennyn
- Dylid cadw cŵn ar dennyn bob amser ym maes hamdden Llanfairfechan a’r tir o amgylch y llyn cychod ar ffin orllewinol yr eiddo a elwir yn Gorsefield, fel y dangosir mewn piws ar y map.
Map