Rydym yn cymryd troseddau baw ci o ddifri ond nidyw bob amser yn bosibl i ni fod yn dyst i’r troseddau hyn.
Os ydych eisiau cymryd safiad yn erbyn baw cŵn yn eich cymuned, gallwch roi gwybod i Iechyd yr Amgylchedd am berchnogion cŵn anghyfrifol sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.
Rhowch gymaint o’r wybodaeth ganlynol a phosibl:
- diwrnod, dyddiad ac amser y troseddau
- lleoliad y troseddau
- disgrifiad o’r ci (brîd, lliw ac ati)
- disgrifiad o’r perchennog neu’r sawl sy’n gyfrifol
- os yw’r troseddwr yn defnyddio car, disgrifiad o’r car a’r rhif cofrestru.
Os oes gennym ddigon o wybodaeth am y sawl sy’n gyfrifol byddwn yn ceisio dod o hyd iddyn nhw. Po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi, y mwyaf tebygol fydd hi y gallwn ni ddal y troseddwr.
Rhowch wybod am broblem baw ci