Mae ein 45 milltir o arfordir yn golygu bod digonedd o le i bawb ei fwynhau.
Mae croeso i gŵn ar ein traethau ond mae nifer fach o lefydd lle na chaniateir cŵn. Rydym hefyd yn rhoi cyfyngiadau yn eu lle ar rai darnau o draethau yn ystod misoedd prysur yr haf.
Mae yna arwyddion a mapiau ar y traeth i ddangos o ba rannau y mae cŵn wedi’u gwahardd neu lle mae’n rhaid eu cadw ar dennyn drwy gydol y flwyddyn neu yn ystod rhan o’r flwyddyn.
Os nad oes cyfyngiadau ar y traeth, gallwch fynd â’ch ci i unrhyw ran ohono. ond cofiwch lanhau ar ôl eich ci.
Traethau â chyfyngiadau cŵn