Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Plant mewn Perfformiadau


Summary (optional)
Mae deddfwriaeth sy’n llywodraethu plant mewn adloniant yn ymwneud â phlant sy’n cymryd rhan mewn ‘perfformiadau’, gan gynnwys perfformiadau a ddarlledir, ffotograffiaeth plant a gwaith modelu.
start content

Mae'r angen am drwydded yn dibynnu ar yr hyn a drefnir, nid pwy sy’n trefnu’r perfformiad neu’r gweithgaredd.  Mae’r canllawiau sydd ynghlwm yn egluro pa reolau sy’n berthnasol i berfformiadau a phryd i wneud cais am drwydded.

Y prif ffactorau yw;

  • p’un a gaiff taliadau eu gwneud (gan y gynulleidfa) neu eu derbyn (gan y plentyn);
  • lleoliad y perfformiad;
  • a p’un a yw’n cael ei ffilmio neu ei recordio ar gyfer y teledu, radio, y rhyngrwyd neu ffilm


Mae’r rhain yn cynnwys:

  • unrhyw berfformiad lle codir tâl mynediad neu dâl am unrhyw reswm arall;
  • unrhyw berfformiad ar safleoedd â thrwydded i werthu alcohol (hyd yn oed os bydd y bar ar gau yn ystod y perfformiad);
  • unrhyw berfformiad a gaiff ei ddarlledu’n fyw (gan gynnwys ar y teledu, ar y radio a thrwy ffrydio ar-lein);
  • unrhyw berfformiad a gaiff ei recordio i’w ddefnyddio mewn darllediad neu ffilm i’w wylio gan y cyhoedd (gan gynnwys recordiad sain neu glywedol ar wefan neu berfformiad a gaiff ei recordio ar gyfer y sinema neu ran o ffilm);
  • unrhyw weithgaredd lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu waith modelu lle gwneir taliad am eu cyfranogiad, gan eithrio treuliau (pwy bynnag sy’n derbyn y taliad).

Mae rhai perfformiadau wedi’u heithrio o’r angen i gael trwydded.

Mae’r ddolen hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch a oes angen trwydded. Fodd bynnag, dylech geisio cyngor gan eich Awdurdod Lleol os nad ydych chi’n siŵr.

Byddwn ond yn cyflwyno trwydded os byddwn yn fodlon bod trefniadau digonol wedi’u gwneud i oruchwylio a diogelu’r plentyn, a sicrhau cyn lleied â phosibl o amhariad i addysg y plentyn. 

Dylid derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith i’r digwyddiad. Fodd bynnag, cynghorwn eich bod yn rhoi gymaint o rybudd â phosibl er mwyn osgoi siom, yn arbennig ar gyfer digwyddiadau mawr, gan fod gennym ddyddiad cau gwahanol ar gyfer derbyn y wybodaeth. 

 

Cysylltu â ni: 

E-bost: ESWS@conwy.gov.uk 
Rhif ffôn: 01492 575031  

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?