Ni fydd angen trwydded ar gyfer rhai mathau o berfformiadau, ond ni fydd yr eithriadau hynny’n berthnasol ond pan na wneir unrhyw daliad i’r (neu ar gyfer) plentyn neu’r plant sy’n cymryd rhan yn y perfformiad (ni waeth pwy sy’n cael y taliad).
Yr achosion hynny yw:
- perfformiad y mae ysgol yn ei drefnu
- os yw’r plentyn wedi perfformio ar lai na phedwar o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf (y Rheol Pedwar Diwrnod)
- nid oes yr un plentyn yn cael ei dalu ac mae’r trefnwr yn gallu gwneud cais am Gymeradwyaeth Corff o Bersonau
Ysgolion
Efallai na fydd yn ofynnol cael trwydded ar gyfer perfformiad os ydyw:
a) wedi’i drefnu gan ysgol – sefydliad addysgol sy’n darparu addysg gynradd neu uwchradd, yn hytrach nag ysgol ddawns neu rywle cyffelyb; a
b) bod yr ysgol yn gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad, a allai gynnwys plant o’r ysgol honno neu ysgol arall.
Mae’r blychau isod yn nodi pa amgylchiadau a fyddai’n bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriad hwn – a pha rai na fyddai.
Pwy sy’n gwneud y trefniadau?
content
A oes angen trwydded? Nac oes.
content
Megis:
- ysgol berfformio sydd hefyd yn darparu prif addysg y plentyn; ac
- ysgol sy’n darparu prif addysg y plentyn yn gweithio ochr yn ochr ag ysgol berfformio
Ni fyddai’r ffaith bod darlledwr yn ffilmio’n digwyddiad fel rhan o ffilm ddogfen arsyllol yn effeithio ar yr eithriad hwn - cyn belled nad yw’r darlledwr yn dweud wrth y plant beth i’w wneud.
A oes angen trwydded?
Nac oes.
content
Lle mae’r plentyn yn mynd iddi er mwyn hyfforddi ar gyfer y gweithgaredd hwnnw’n unig (nid ble maent yn derbyn eu prif addysg):
A oes angen trwydded? Oes (gan dybio nad oes eithriad arall yn berthnasol).
content
Er enghraifft, pan mae disgyblion ysgol yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae darlledwr wedi’i drefnu
A oes angen trwydded? Oes (gan dybio nad oes eithriad arall yn berthnasol).
Y Rheol Pedwar Diwrnod
Nid oes angen trwydded ar unrhyw blentyn sydd heb berfformio ar fwy na thri o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf ar gyfer perfformio am un diwrnod arall. Unwaith y mae plentyn wedi perfformio ar bedwar o ddiwrnodau neu fwy mewn cyfnod o chwe mis, mae angen trwydded (oni bai bod eithriad arall yn berthnasol). Mae hynny’n cynnwys unrhyw berfformiad, os codir tâl i’w weld neu beidio, p’un a oedd gan y plentyn drwydded ar gyfer unrhyw un o’r diwrnodau hynny neu bod Cymeradwyaeth Corff o Bersonau’n berthnasol (gweler isod). Bydd angen ‘rhesymau dilys’ dros gredu nad yw’r plentyn wedi perfformio ar fwy na thri o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf. Llythyr gan riant y plentyn i gadarnhau hynny fyddai’r peth gorau, a dylid hefyd ceisio cyngor gan yr awdurdod trwyddedu. Os oes angen i blentyn fod yn absennol o’r ysgol i gymryd rhan yn y perfformiad yna ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn, a bydd angen trwydded.
Gwneud Cais am Dystysgrif Eithrio
I wneud cais am dystysgrif eithrio bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:
- Ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn
- Polisi Diogelu
- Asesiad Risg
- Copïau o drwyddedau pawb a fydd yn gweithredu fel gwarchodwyr/hebryngwyr ar gyfer y perfformiad
- Rhestr o’r holl oedolion eraill a fydd yn goruchwylio a chopïau o’u tystysgrifau Datgelu a Gwahardd cyfredol
- Asesiad Risg
Dylid cael ceisiadau wedi’u cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith i’r digwyddiad. Fodd bynnag, cynghorwn eich bod yn rhoi gymaint o rybudd â phosibl er mwyn osgoi siom.
Cysylltu â ni:
E-bost: ESWS@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 575031