Mae gofalwyr plant wedi’u cofrestru yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, gan ofalu am blant pobl eraill ac yn cael eu rheoli a’u harchwylio gan AGC.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan PACEY. Dyma’r cwrs paratoi sy’n cael ei argymell ar gyfer darpar a gofalwyr plant newydd yng Nghymru ac mae’n cynnwys yr anghenion i nanis.
Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref - IHC
Cyfeirir at yr uned hon fel yr IHC ac mae’n addas i ddarpar nanis a gwarchodwyr plant. Mae'n rhoi cyflwyniad i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn y cartref. Mae gan yr uned y deilliannau dysgu canlynol:
- Gofynion deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, canllawiau a fframweithiau
rheoleiddio ar gyfer gofal plant yn y cartref
- Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd/gofalwyr ym maes gofal plant yn y cartref
- Iechyd a llesiant ym maes gofal plant yn y cartref
- Arferion, newidiadau a chyfnodau trawsnewid ym maes gofal plant yn y cartref
- Datblygiad cyfannol plant mewn gofal plant yn y cartref
- Y Gymraeg a diwylliant Cymru
- Ymarfer proffesiynol ym maes gofal plant yn y cartref
Asesu: Bydd angen portffolio o dystiolaeth ar gyfer yr uned hon.
Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant - PCP
Cyfeirir at yr uned hon fel y PCP ac mae’n addas i ddarpar warchodwyr plant yn unig. Mae cynnig gwybodaeth i gefnogi’u proses o baratoi i gofrestru. Mae gan yr uned y deilliannau dysgu canlynol:
- Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru
- Ymarfer proffesiynol ym maes gwarchod plant
- Iechyd a llesiant mewn lleoliad gwarchod plant
- Gwaith cynllunio busnes effeithiol ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant
Asesu: Trafodaethau proffesiynol yn seiliedig ar bortffolio o waith a gwblheir er mwyn helpu i gofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.
Gwarchod Plant (pdf)
Gwefan Pacey