Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Canolfan Gweithgareddau Diogelwch PentrePeryglon, Talacre


Summary (optional)
start content

Rydym ar agor yn ystod gwyliau’r ysgol i aelodau’r cyhoedd. Rydym yn cynnig diwrnod llawn hwyl i’r teulu – ond nid dyma’ch diwrnod allan arferol.

Wedi’i gynllunio fel set ffilm, byddwch yn dilyn y llwybr dan do ar daith o’r cartref i’r traeth, cefn gwlad a maes chwarae, a lleoliadau realistig eraill i ddysgu am ddiogelwch mewn ffordd hwyliog.

Mae gweithgareddau ar gael i chi pan fyddwch chi’n ymweld â ni. Mae gennym ni’r Helfa Ditectif Dirgel lle byddwch chi’n chwilota am beryglon. A bydd Helfa Drysor hefyd! Fedrwch chi ddod o hyd i’r eitemau rydym ni wedi’u cuddio’n ofalus?

Mae gennym hefyd ystafell grefftau, CraftPoint, lle gallwch chi greu eich campwaith eich hun. O beintio crochenwaith i Build-a Bear, mae rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo!

Dyddiadau

  • Dydd Llun i dydd Gwener o dydd Llun 22 Gorffennaf tan dydd Llun 2 Medi (ac eithrio gŵyl banc)

Amser

  • Ar agor o 10am

Lleoliad

  • PentrePeryglon, Parc Busness Granary Court, Ffordd yr Orsaf, Talacre, Sir y Fflint, CH8 9RL

Grŵp oedran

  • 5+

Cost

  • O £4

Trefniadau cinio

  • Mae diodydd a byrbrydau ar gael i’w prynu ond nid oes caffi ar y safle felly rydym yn argymell dod â chinio gyda chi i’w fwyta dan do neu yn ein hardal bicnic awyr agored.

Archebu ymlaen llaw

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content