Mae’r dewisiadau yn amrywio o fod yn ofalwr plant a gofalu am blant yn eich cartref eich hun, i sefydlu neu weithio mewn meithrinfa ddydd neu glwb ar ôl ysgol.
Efallai eich bod yn dechrau meddwl am ystyried gofal plant fel gyrfa ac efallai yr hoffech sgwrs anffurfiol ag un o’n staff yma yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy. Gallwn roi arweiniad i chi ynglŷn â rhai o’r materion yr ydych am eu hystyried a’ch cyfeirio at sefydliadau sy’n gallu helpu.
Ffoniwch ni ar: 01492 577850
neu anfonwch e-bost at: plant.children@conwy.gov.uk
Sefydliadau defnyddiol:
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ofalwr Plant, mae Tîm Datblygu Gofal Plant Conwy yma i’ch helpu a’ch cefnogi. Mae’r Tîm Datblygu Gofal Plant hefyd yn rhedeg rhaglen o gyrsiau hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant.
Caiff gofal plant ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Rhif Ffôn: 0300 7900 126
E-bost: agc@llyw.cymru
Gwe:https://arolygiaethgofal.cymru
Os ydych am ddarparu gofal plant, rhaid i chi gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.