Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Canolfan Integredig Lôn Hen Ysgol


Summary (optional)
start content
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
Canolfan Lôn Hen Ysgol,
Church Walks,
Llandudno

Beth yw canolfan integredig?

Canolfan integredig yw un adeilad ble mae sawl gwasanaeth yn gweithredu ohono i ddarparu cyfleusterau i deuluoedd.

Yn y Ganolfan Lôn Hen Ysgol mae gennym y cyfleusterau canlynol:

Ystafell Hyfforddiant: Mae gennym ystafell hyfforddiant cyflawn ble mae grwpiau yn cyfarfod, darperir hyfforddiant neu gellir eu harchebu.

I archebu’r ystafell hyfforddiant neu i drefnu i weld y cyfleusterau cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy yn darparu gwybodaeth AM DDIM ar bob agwedd ar ofal plant a gwasanaethau i blant a phobl ifanc a theuluoedd, gan gynnwys bas-data ar-lein.

Tîm Datblygu Gofal Plant

Mae’r tîm gofal plant yn darparu cefnogaeth i leoliadau gofal plant a hyfforddiant.  Maent yn cefnogi’r rhai sydd eisiau cofrestru ac yn gyfrifol am gynnal yr Archwiliad Digonolrwydd Gofal Plant.

  • Ffôn: 01492 577850

Tîm Blynyddoedd Cynnar

Mae’r tîm blynyddoedd cynnar yn darparu cyngor a chefnogaeth i leoliadau 3 oed sydd wedi’u hariannu i’w cynorthwyo i gyflwyno’r cyfnod sylfaen ac i baratoi ar gyfer eu harolygon ESTYN.

  • Ffôn: 01492 57785

Cyn-ysgol Lôn Ysgol

Gofal plant ac addysg cyfnod sylfaen i rai 2-4 oed o 9.15-3pm.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?