Mae cwricwlwm newydd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer lleoliadau ac ysgolion yng Nghymru, a chaiff ei ddefnyddio erbyn 2022. Bydd y cwricwlwm newydd yn pwysleisio ar roi i bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd. Bydd yn datblygu eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio’u gwybodaeth bynciol yn fwy effeithiol ac mewn ffordd fwy creadigol. Wrth i’r byd newid o’u cwmpas, byddan yn gallu addasu, a hynny mewn ffordd gadarnhaol.