Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Llywodraethwyr Ysgolion Llywodraethwyr Ysgol - Rolau a chyfrifoldebau

Llywodraethwyr Ysgol - Rolau a chyfrifoldebau


Summary (optional)
Llywodraethwyr Ysgol, rolau a chyfrifoldebau, corff llywodraethu
start content

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.

Mae Cyrff Llywodraethu yn cynnwys pobl leol a fydd yn cynnwys rhieni; unigolion a benodir gan yr Awdurdod Lleol, athrawon, staff, a’r pennaeth a gall gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr o’r eglwys.  Bydd nifer yr aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.

Mae gan y corf llywodraethu gyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth strategol, sy’n golygu:

  • Gosod nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
  • Mabwysiadu polisïau i gyflawni’r nodau ac amcanion hynny;
  • Gosod targedau i gyflawni’r nodau ac amcanion hynny;
  • Adolygu cynnydd tuag at gyflawni’r nodau ac amcanion hynny.

Mae gan gyrff amryw o ddyletswyddau a phwerau mewn deddfwriaeth:

  • Arwain yr ysgol gyda’r bwriad o hyrwyddo safonau addysgol ac ymddygiad uchel;
  • Gosod targedau ysgol priodol i gynnydd disgyblion yng Nghyfnodau 2, 3 a 4;
  • Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am arweiniad yr ysgol - yn ymarferol golyga hyn llunio polisïau, a sut dylai’r ysgol gael ei rhedeg yn nhermau strategol cyffredinol;
  • Rheoli cyllideb yr ysgol, penderfynu ar y cyflenwad staff a gwneud penderfyniadau ar gyflog staff yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD);
  • Sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn gytbwys gyda sail eang, yn arbennig o ran dysgu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol;
  • Darparu adroddiad i rieni bob blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth am asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau arholiadau.
  • Penodi’r pennaeth a’r dirprwy (gyda chyngor gan yr ALl, ac yn achos ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol ac ysgolion a reolir yn wirfoddol yr Esgobaeth) a staff arall, yn ogystal â rheoli ymddygiad a disgyblaeth staff; ac
  • Llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolwg Estyn.


Mae Llywodraeth Cymru yn darparu llawer iawn o wybodaeth ar bob agwedd o gyrff llywodraethu ysgolion a gellir gweld y wybodaeth ar eu gwefan.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?