Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol newydd o 1 Medi 2025.
1. Cwestiynau ac atebion - cyffrinedol:
content
Dim ond y trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol dewisol sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau i’r polisi, sef:
- Mae cludiant i ddysgwyr sy’n newid cyfeiriad yn ystod blynyddoedd arholiadau eu haddysg er mwyn eu galluogi i aros yn yr un ysgol wedi cael ei dynnu o’r polisi.
- Mae cludiant i ysgolion enwadol dros y pellter statudol - wedi cael ei addasu fel bod angen tystiolaeth o ffydd.
- Mae cludiant ôl-16 dros y pellter statudol – wedi’i addasu er mwyn darparu cludiant ôl-16 i’r sefydliad addysgol agosaf (yr ysgol uwchradd dalgylch/ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf neu’r coleg Addysg Bellach agosaf)) dros y pellter statudol.
- Darpariaeth cludiant i ddau gyfeiriad gwahanol mewn amgylchiadau lle mae’r rhieni’n byw ar wahân - mae hyn wedi’i newid i gynnwys maen prawf ychwanegol sy’n pennu bod cludiant i ail gyfeiriad wedi’i gyfyngu i gyfeiriadau cartref o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Cludiant i ddisgyblion â chyflyrau meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu resymau penodol eraill - gellir adolygu’r ddarpariaeth cludiant yn flynyddol yn unol â’r polisi presennol.
content
Bydd ceisiadau am gludiant o fis Medi 2025 yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol diwygiedig.
Os ydi’ch plentyn eisoes yn cael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol cyn mis Medi 2025, ni fydd y ddarpariaeth cludiant yma’n cael ei effeithio ac ni fydd angen i chi ailymgeisio.
content
Ystyrir bod cludiant i’r ysgol yn un o’r costau sy’n cynyddu gyflymaf yng nghyllideb flynyddol Awdurdodau Lleol. Yn 2022-2023, gwariodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oddeutu £6.5 miliwn ar gludiant o’r cartref i’r ysgol. Roedd oddeutu hanner y swm hwn ar gyfer cludiant a ddarperir fel dyletswydd statudol. Fodd bynnag, roedd y gweddill ar gyfer cludiant a ddarperir ar sail disgresiwn.
Mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym mis Hydref 2023, cytunwyd y dylid cwblhau ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn yr unigolion a’r sefydliadau sydd â diddordeb ar y meini prawf dewisol yn ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ffurfiodd dadansoddiad o adborth yr ymgynghoriad ran o adroddiad a aeth drwy’r broses ddemocrataidd i’w gymeradwyo. Yn yr adroddiad, fe awgrymwyd newidiadau i feini prawf disgresiwn ym Mholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, a gytunwyd gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf 2024. Nid yw darpariaeth statudol Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol wedi newid.
content
Bydd unrhyw geisiadau am gludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim yn dechrau o fis Medi 2025 yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol diwygiedig.
2. Cludiant ôl-16:
content
Nid yw darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ôl-16 yn ofyniad statudol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dewis darparu cymorth i ddysgwyr ôl-16 er mwyn iddynt barhau â’u haddysg.
Bydd cludiant ôl-16 yn cael ei ddarparu i’r sefydliad addysgol agosaf (yr ysgol uwchradd dalgylch/ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf neu’r coleg Addysg Bellach agosaf) dros y pellter statudol (3 milltir neu fwy).
content
Bydd cludiant ôl-16 yn cael ei ddarparu i’r sefydliad addysgol agosaf dros y pellter statudol (3 milltir neu fwy) o gyfeiriad y cartref. Fe allai hyn fod i’r ysgol uwchradd dalgylch/ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf neu’r coleg Addysg Bellach agosaf.
Os ydi eich plentyn yn dymuno mynychu sefydliad ymhellach i ffwrdd, fe fydd angen i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.
content
Os ydi eich plentyn yn mynychu eu sefydliad addysgiadol agosaf a’i fod fwy na 3 milltir o’u cartref, yna fe fyddant yn parhau i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim.
I ddysgwyr sy’n mynd i Flwyddyn 13 ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn unig, ac sydd ddim yn mynychu eu sefydliad addysgol agosaf, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn parhau i ddarparu’r un cludiant a ddarparwyd ym Mlwyddyn 12.
content
Bydd cludiant ôl-16 yn cael ei ddarparu i’r coleg Addysg Bellach agosaf dros y pellter statudol (3 milltir neu fwy) o gyfeiriad y cartref. Os nad ydi’r coleg agosaf yn darparu’r cwrs y mae’r dysgwr yn dymuno ei astudio, yna bydd angen i’r dysgwr wneud ei drefniadau cludiant ei hunain i’w coleg dewisol. Efallai y bydd y coleg yn darparu cludiant; cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
Mae Lwfans Cynnal Addysg ar gael i bobl ifanc o aelwydydd incwm isel i’w helpu i gael mynediad at addysg bellach. Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i’r myfyrwyr hynny sy’n wynebu caledi drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n cael ei ddosbarthu i sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru. Cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
content
Bydd cludiant ôl-16 yn cael ei ddarparu i’r coleg Addysg Bellach agosaf dros y pellter statudol (3 milltir neu fwy). Os nad mai’r coleg arbenigol yw’r coleg addysg bellach agosaf, yna ni fydd cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu.
Efallai y bydd y coleg arbenigol yn darparu cludiant, cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
Mae’r Lwfans Cynnal Addysg ar gael i bobl ifanc o aelwydydd incwm isel i’w helpu i gael mynediad at addysg bellach. Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i’r myfyrwyr hynny sy’n wynebu caledi drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n cael ei ddosbarthu i sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru. Cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
content
Nid yw cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu ar gyfer cyrsiau preswyl.
Efallai y bydd y coleg yn darparu cludiant; cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
Mae Lwfans Cynnal Addysg ar gael i bobl ifanc o aelwydydd incwm isel i’w helpu i gael mynediad at addysg bellach. Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i’r myfyrwyr hynny sy’n wynebu caledi drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, sy’n cael ei ddosbarthu i sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru. Cysylltwch â’r coleg i gael manylion.
content
Nid yw cludiant o'r cartref i'r ysgol ôl-16 yn ofyniad statudol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dewis rhoi cymorth i ddysgwyr ôl-16 er mwyn iddynt barhau â’u haddysg.
Bydd cludiant ôl-16 yn cael ei ddarparu i’r sefydliad addysgol agosaf dros y pellter statudol (3 milltir neu fwy) o gyfeiriad y cartref. Efallai y bydd cludiant yn cychwyn a gorffen yn y man casglu, na fydd pellach na 3 milltir o gyfeiriad y cartref. Cyfrifoldeb y rhieni yw sicrhau y gall eu plant deithio yn ôl a blaen o’r man casglu yn ddiogel.
3. Cludiant i ysgolion enwadol:
content
Tystiolaeth o ffydd fyddai tystysgrif bedydd, tystysgrif prawf o ffydd, llythyr gan arweinydd ffydd neu rywbeth tebyg.
content
Fe gydnabyddir efallai y bydd rhieni o ffydd gwahanol eisiau i’w plant dderbyn addysg yn seiliedig ar ffydd, felly nid oes angen i dystiolaeth o ffydd gyd-fynd â’r ysgol.
content
Os nad oes yna dystiolaeth o ffydd, dylai rhieni ddarparu datganiad ategol. Os nad ydi’r datganiad yn cael ei dderbyn fel tystiolaeth ddigonol o ffydd, a bod y cais am gludiant yn cael ei wrthod, gall rhieni ddilyn y broses datrys anghydfod (gweler A14 o’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol).
content
Bydd disgyblion sydd eisoes yn derbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ysgol enwadol ar gyfer y flwyddyn academaidd a ddaw i ben ym mis Gorffennaf 2025 yn parhau i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol am ddim tan ddiwedd blwyddyn 6 (oni bai bod eu hamgylchiadau’n newid) ac ni fydd yn rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth na chyflwyno cais newydd.
Bydd yn rhaid i geisiadau newydd am gludiant o'r cartref i'r ysgol i ysgol enwadol ddarparu tystiolaeth o ffydd o fis Medi 2025.
4. Cludiant i ddwy breswylfa:
content
Mae meini prawf ychwanegol wedi cael ei ychwanegu lle y bydd cludiant i ail gyfeiriad yn cael ei gyfyngu i gyfeiriadau ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd disgyblion sydd eisoes yn derbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddwy breswylfa ar gyfer y flwyddyn academaidd a ddaw i ben ym mis Gorffennaf 2025 yn parhau i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol am ddim tan y byddant yn gadael yr ysgol honno (oni bai bod eu hamgylchiadau’n newid).
5. Cludiant i ddysgwyr sy’n newid cyfeiriad yn ystod blynyddoedd arholiadau eu haddysg:
content
Ni fydd cludiant i ddysgwyr sy’n newid cyfeiriad yn ystod blynyddoedd arholiadau eu haddysg er mwyn eu galluogi i aros yn yr un ysgol ar gael ar ôl mis Medi 2025.
6. Cludiant i ddisgyblion â chyflyrau meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY), neu resymau penodol eraill:
content
Nid yw meini prawf y polisi wedi newid. Yn unol ag A3.5.4 Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, gellir adolygu trefniadau cludiant yn flynyddol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi dysgwyr i deithio mor annibynnol ag sy’n bosibl. Bydd adolygiad yn ystyried y math o gludiant a ddarperir i'r dysgwr ac, os darperir cynorthwy-ydd teithwyr personol, p’un a oes angen parhaus.
content
Yn unol ag A3.6 Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, gellir adolygu trefniadau cludiant yn flynyddol.
Bydd adolygiad yn ystyried y math o gludiant a ddarperir i'r dysgwr ac, os darperir cynorthwy-ydd teithwyr personol, p’un a oes angen parhaus.
Dogfennau: