Ydych chi'n rhiant neu warcheidwad? Os felly, yma yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy mae gennym gyfoeth o wybodaeth rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol iawn i chi! Yn ogystal â gwybodaeth am ofal plant mae gennym wybodaeth am lawer o wasanaethau, sefydliadau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cefnogaeth, arweiniad a chyfeirio:
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu e-bostiwch plant@conwy.gov.uk
Edrychwch ar ein tudalennau gwe yn www.conwy.gov.uk/plant
Gallwch hefyd edrych ar ein cronfa ddata eich hun yn: Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd (fis.wales)
Neu cewch wybod beth sy'n digwydd yn y Sir ar gyfer teuluoedd ar ein tudalen Facebook - https://www.facebook.com/Gwasanaeth-Gwybodaeth-i-Deuluoedd-Conwy-348908681859615
Neu os byddai'n well gennych i wybodaeth gael ei hanfon yn syth i'ch blwch e-bost cofrestrwch i'n e-bost Rhwydwaith Rhieni i dderbyn post rheolaidd. Fe welwch ragor o wybodaeth am y Rhwydwaith yma - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
Clybiau ar ôl ysgol
Mae Grantiau cymorth ariannol i’w gael tuag at cost gofal plant i fynychu lleoliadau gofal plant cofrestredig, am ragor o wybodaeth cysylltwch ag: earlyyearseducation@conwy.gov.uk.
Dewch o hyd i wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch teulu yma yn Sir Conwy:
Family Information Centres (conwy.gov.uk )
Bywyd Teuluol yng Nghonwy