Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc TRAC, ar gyfer pobl 11-16 oed

TRAC, ar gyfer pobl 11-16 oed


Summary (optional)
start content

Nod prosiect TRAC yw cefnogi pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio rhag addysg ac o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant). Mae Tîm TRAC Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi pobl ifanc o oedran ysgol uwchradd (11 i 16 oed).

Nod TRAC yw sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio ac o fod yn NEET yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i lwyddo fel oedolion. Bydd cyfranogwyr yn elwa o welliannau i’w hiechyd a’u lles yn gyffredinol.

Mae’r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion, adrannau eraill yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gweithle i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o fewn y sir.

Caiff y prosiect ei ddarparu gan dîm yng Nghonwy ac mae’n cynnwys ymyriadau fel:

  • cymorth un i un o ran lles a chynllunio ar gyfer y dyfodol
  • cymorth cwnsela un i un
  • gweithdai therapiwtig sy’n edrych ar ymddygiad a ffactorau lles eraill
  • mynediad at gyrsiau achrededig a heb eu hachredu a gyflwynir gan ddarparwyr TRAC
  • cymorth gyda phrofiad gwaith

Cysylltwch â thîm trac:

Ffôn 01492 575118
E-bost TRAC@conwy.gov.uk 

TRAC Logo MainFunded by UK Government

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?