ECO4 a GBIS Datganiad o Fwriad
Fe fydd cynllun EC04 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd ag incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn. Fe fydd y cynllun yn gwella’r cartrefi sydd leiaf effeithlon o ran ynni gan helpu i fodloni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth. Bydd Cynllun Insiwleiddio Prydain yn cefnogi’r cynllun ECO4 i weithredu'r mesurau sengl gan mwyaf sydd wedi'u targedu at ystod ehangach o aelwydydd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth y cynllun hwn. Mae hyn yn amlinellu’r meini prawf cymhwyso i aelwydydd.
Gwybodaeth i Aelwydydd
Mae cysylltiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy â’r cynllun yn un gweinyddol yn unig, ac yn golygu asesu eich tystiolaeth a’ch cais i gadarnhau eich cymhwysedd (nid yw hyn yn gwarantu dyrannu cyllid). Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan eich gosodwr a ddewiswyd ar eich rhan. Nid ydym yn cefnogi unrhyw osodwr a byddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw un sy’n weithredol o fewn y cynllun. Rydym yn argymell eich bod yn cynnal eich diwydrwydd dyladwy eich hun (h.y. gwirio adolygiadau, gwaith blaenorol neu wefan TrustMark), fel ag unrhyw brosiect gwella cartref.
Gwybodaeth i Osodwyr
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno ceisiadau i CBSC neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ecoflex@conwy.gov.uk. Mae mwy o wybodaeth am ein prosesau yn y canllawiau isod, ynghyd ag adnoddau ar gyfer ceisiadau.