Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Effeithlonrwydd Ynni ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni

ECO-Flex: Gwelliannau Effeithlonrwydd Ynni


Summary (optional)
 
start content

ECO4 a GBIS Datganiad o Fwriad


Fe fydd cynllun EC04 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd ag incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn.  Fe fydd y cynllun yn gwella’r cartrefi sydd leiaf effeithlon o ran ynni gan helpu i fodloni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth.  Bydd Cynllun Insiwleiddio Prydain yn cefnogi’r cynllun ECO4 i weithredu'r mesurau sengl gan mwyaf sydd wedi'u targedu at ystod ehangach o aelwydydd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth y cynllun hwn. Mae hyn yn amlinellu’r meini prawf cymhwyso i aelwydydd. 

Gwybodaeth i Aelwydydd


Mae cysylltiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy â’r cynllun yn un gweinyddol yn unig, ac yn golygu asesu eich tystiolaeth a’ch cais i gadarnhau eich cymhwysedd (nid yw hyn yn gwarantu dyrannu cyllid). Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan eich gosodwr a ddewiswyd ar eich rhan. Nid ydym yn cefnogi unrhyw osodwr a byddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw un sy’n weithredol o fewn y cynllun. Rydym yn argymell eich bod yn cynnal eich diwydrwydd dyladwy eich hun (h.y. gwirio adolygiadau, gwaith blaenorol neu wefan TrustMark), fel ag unrhyw brosiect gwella cartref.

Gwybodaeth i Osodwyr

Wrth gyflwyno unrhyw gais/geisiadau mae’n rhaid i chi hefyd anfon yr holl wybodaeth a thystiolaeth ategol angenrheidiol wedi’i labelu’n glir er mwyn galluogi prosesu di-drafferth. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir sy’n cael eu hystyried yn anghyflawn neu sydd wedi’u gwneud ar hen ffurflenni yn cael eu dychwelyd, ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd unrhyw gamau pellach hyd nes y bydd yr holl ddogfennaeth gywir wedi’i darparu.

Fe welwch isod Restr Wirio Tystiolaeth GBIS ac ECO4 sy’n rhoi manylion y dogfennau y mae angen eu cyflwyno gyda phob cais a wneir. O hyn ymlaen, mae’n rhaid i bob cais a wneir gynnwys copi wedi’i lenwi o’r Rhestr Wirio Tystiolaeth amgaeedig yn rhoi manylion y dogfennau sydd ynghlwm wrth y cais. Bydd unrhyw gais a gyflwynir heb y Rhestr Wirio Tystiolaeth yn cael ei ystyried yn anghyflawn a bydd yn cael ei anfon yn ôl. Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud unrhyw beth gyda’r cais tan y bydd yn cael ei ailgyflwyno gyda’r Rhestr Wirio Tystiolaeth wedi’i hatodi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno ceisiadau i CBSC neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ecoflex@conwy.gov.uk. Mae mwy o wybodaeth am ein prosesau yn y canllawiau isod, ynghyd ag adnoddau ar gyfer ceisiadau

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?