Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Effeithlonrwydd Ynni Gwybodaeth Ddefnyddiol i'ch Helpu chi Arbed ynni yn eich cartref

Gwybodaeth Ddefnyddiol i'ch Helpu chi Arbed ynni yn eich cartref


Summary (optional)
start content

Yn ôl ymchwil diweddar gan Nwy Prydain, am bob £3 mae Deiliaid Tai ym Mhrydain yn ei wario ar danwydd, mae £1 ohono’n cael ei wastraffu'n syth bin.

Nid yn unig y mae hyn yn costio arian y byddai’n well gennym ni ei wario ar bethau eraill, mae hefyd yn cynyddu allyriadau carbon sy’n arwain at gynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yw'r sefydliad rhif un sy’n helpu deiliaid tai, llywodraethau, busnesau a sefydliadau arbed ynni bob dydd.

Nyth

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw.

Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu i leihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.

Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i’r wefan Nyth.

Cymru Effeithlon

Gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n rhoi un pwynt cyswllt o gefnogaeth i bobl ar ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.

Cymru Effeithlon yw un pwynt cyswllt Llywodraeth Cymru ar gyfer gwybodaeth am effeithlonrwydd adnoddau (hy, ynni, gwastraff a dŵr). Maent yno i'ch helpu i ddod o hyd i'r cymorth iawn i ddod yn fwy effeithlon. Gall y tîm roi gwybodaeth i chi am ba gefnogaeth sydd ar gael, a gallant gyfeirio galwyr at amrediad manwl o wasanaethau cymorth.

Llywodraeth Cymru

Eich canllaw i ba gynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref sydd gennym, a sut i ddweud os yw contractwyr yn rhai go iawn.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?