Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Opsiynau Tai Tai Cymdeithasol

Tai Cymdeithasol


Summary (optional)
start content

Beth yw tai cymdeithasol?

Cynghorau lleol neu sefydliadau nid er elw sy’n berchen ar dai cymdeithasol, ac fe’u gelwir yn gymdeithasau tai. Maent yn gosod tai cymdeithasol i bobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu eu tŷ eu hunain, nad ydynt yn gallu fforddio rhentu gan landlord preifat, neu angen cartref gyda nodweddion arbennig (megis ystafell ymolchi wedi’i haddasu).

Mae’r rhent ar gyfer tai cymdeithasol yn cael ei osod gan reolau’r llywodraeth. Mae'r rhent yn fforddiadwy fel arfer, i bobl ar incwm isel.

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, byddwn yn eich rhoi ar y gofrestr tai mewn band blaenoriaeth:  Band 1, 2, 3 neu 4 yn dibynnu ar eich sefyllfa. Os oes gan y gymdeithas tai dŷ gwag yng Nghonwy, byddant yn cynnig tenantiaeth i’r sawl sydd ar frig y rhestr ar gyfer yr ardal honno.

Dim ond un cofrestr sydd yng Nghonwy, ond mae chwe cymdeithas tai. Y rhain yw:

Mae’r gofrestr tai yn cael ei rheoli gan dîm Canfod Cartrefi (Cartrefi Conwy) ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mi fyddan nhw’n gyfrifol am eich data ac mae eu Hysbysiad Preifatrwydd i’w weld yma   - Polisi Preifatrwydd - Cartrefi Conwy.

Sut i wneud cais

Os ydych eisiau gwneud cais i fod ar gofrestr Conwy, cysylltwch â ni yn Natrysiadau Tai Conwy:

  • Ffôn: 0300 124 0050


Band 1

Byddwch yn cael eich rhoi ym mand 1 os oes angen brys o ran cael tŷ ac mae gennych gysylltiad lleol.

Rydych mewn angen brys o ran cael tŷ os:

  • Oes gennych angen meddygol brys, er enghraifft, rydych yn yr ysbyty, ac nid oes modd i chi ddychwelyd i'ch cartref presennol
  • Oes angen i chi symud ar frys i eiddo sydd wedi’i addasu
  • Yw eich cartref wedi cael ei ddifrodi mewn tân neu oherwydd llifogydd
  • Rydych yn ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog
  • Rydych yn berson ifanc sy’n gadael gofal, neu byddai angen i chi fynd i ofal fel arall
  • Rydych yn denant ar hyn o bryd gyda gormod o ystafelloedd gwely, ac yn fodlon cymryd eiddo llai
  • Rydych yn denant mewn eiddo wedi’i addasu ar hyn o bryd, ond nid oes ei angen bellach ac rydych yn fodlon symud
  • Rydych yn ddigartref oherwydd eich bod wedi ffoi oherwydd trais neu’r perygl o drais (nid oes angen i chi gael cysylltiad lleol)
  • Mae gennych achosion eithriadol arall o angen dybryd

 

Band 2

Byddwch yn cael eich rhoi ym mand 2 os oes angen brys o ran cael tŷ a gennych gysylltiad lleol.

Rydych mewn angen brys o ran tai os:

  • Rydych yn anfwriadol ddigartref
  • Mae gennych angen meddygol difrifol sy'n cael ei waethygu gan eich tŷ
  • Rydych yn byw mewn tŷ gorlawn neu o ansawdd gwael iawn
  • Nid oes gan eich eiddo gyfleusterau hanfodol megis tŷ bach
  • Mae angen eiddo wedi’i addasu arnoch, ond nid oes modd i chi drefnu’r addasiadau eich hun
  • Rydych yn dioddef caledi oherwydd eich tŷ – er enghraifft, os oes angen i chi symud i gael cefnogaeth hanfodol

 

Band 3  

Byddwch yn cael eich rhoi ym mand 3 os oes angen brys o ran cael tŷ ac mae gennych gysylltiad lleol.

Rydych mewn angen brys o ran cael tŷ os:

  • Oes gennych angen meddygol brys, er enghraifft, rydych yn yr ysbyty, ac nid oes modd i chi ddychwelyd i'ch cartref presennol
  • Oes angen i chi symud ar frys i eiddo sydd wedi’i addasu
  • Yw eich cartref wedi cael ei ddifrodi mewn tân neu oherwydd llifogydd
  • Rydych yn ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog
  • Rydych yn berson ifanc sy’n gadael gofal, neu byddai angen i chi fynd i ofal fel arall
  • Mae gennych achosion eithriadol arall o angen dybryd

 

Band 4

Byddwch yn cael eich rhoi ym mand 4 os oes angen brys o ran cael tŷ ac nid oes gennych gysylltiad lleol (ar wahân i un achos, a roddir isod).

Bydd hyn yn gymwys os:

  • Ydych chi’n cael eich ystyried yn anfwriadol ddigartref gan y Cyngor lleol
  • Mae gennych angen meddygol difrifol sy'n cael ei waethygu gan eich tŷ
  • Rydych yn byw mewn tŷ gorlawn neu o ansawdd gwael iawn
  • Nid oes gan eich eiddo gyfleusterau hanfodol megis tŷ bach
  • Mae angen eiddo wedi’i addasu arnoch ond nid oes modd i chi drefnu’r addasiadau eich hun
  • Rydych yn dioddef caledi oherwydd eich tŷ – er enghraifft, os oes angen i chi symud i gael cefnogaeth hanfodol
  • Mae’r Cyngor lleol yn ystyried eich bod yn anfwriadol ddigartref (gyda neu heb gysylltiad lleol)

Byddwn yn blaenoriaethu ymgeiswyr ymhob band yn ôl trefn y dyddiad a wnaed y cais.

 

Beth yw cysylltiad lleol?

Fel arfer, diffiniad cysylltiad lleol yw:  

  • byw neu weithio yn y Sir, neu
  • ag aelodau agos o’r teulu sydd wedi ymsefydlu yn sir

Am ragor o wybodaeth ar reolau cymhwysedd ar gyfer tai cymdeithasol, gweler Y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol.

Mae'r polisi hwn yn cael ei rannu gan bobl cyngor lleol a chymdeithas tai yn Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae pob Cyngor wedi cytuno ar y polisi ac mae’n bodloni gofynion y gyfraith.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd aelod o dîm Datrysiadau Tai Conwy yn siarad â chi am eich angen o ran tŷ, incwm, arbedion a chysylltiad â Chonwy. Byddant yn gofyn i chi lle rydych eisiau byw, pwy fydd yn byw gyda chi a pha fath o gartref rydych ei angen megis fflat neu dŷ.

Yn anffodus, nid oes digon o dai cymdeithasol i bawb sydd ar y gofrestr tai. Efallai bydd angen i chi aros rhai blynyddoedd cyn cael eiddo.

Bydd Datrysiadau Tai Conwy yn rhoi cyngor i chi am y dewisiadau eraill sydd ar gael o ran tai a allai fodloni eich anghenion.

Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gallwch ganfod rhagor am sut y gallwn helpu.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?