Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Opsiynau Tai Y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol

Y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol


Summary (optional)
start content

Tai Cymdeithasol yw tai rhent sydd ar gael i bobl sy'n derbyn incwm isel neu bobl ag anghenion penodol. Dyrennir tai ar sail anghenion a chysylltiadau â’r ardal leol. Mae Cynghorau a Chymdeithasau Tai’n gallu darparu tai cymdeithasol. Mae’n rhaid bod y Cyngor yn gweithredu cynllun dyrannu sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rhai hynny sydd fwyaf mewn angen.

Nid oes gan Gyngor Conwy stoc o dai ei hun mwyach. Mae hen dai Cyngor Conwy bellach o dan reolaeth a pherchnogaeth cymdeithas dai Cartrefi Conwy.

Darperir tai cymdeithasol yng Nghonwy hefyd gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd; Cymdeithas Tai Clwyd Alyn; Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Pennaf; Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru; a Chymdeithas Tai Wales and West.

Nid oes digon o dai cymdeithasol ar gael i ateb y galw. I’r rhan helaeth o bobl sy’n gwneud cais, ni fydd modd cael tŷ cymdeithasol ar unwaith.

Gofynnir i ymgeiswyr wneud un cais yn unig a gaiff ei ystyried gan bob darparwr tai cymdeithasol yn yr ardaloedd o'u dewis. Mae’r polisi dyrannu’r un fath yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Gellir gwneud cais dros y ffôn neu'n bersonol gyda Datrysiadau Tai Conwy. Nid oes raid llenwi ffurflen gais.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?