Beth yw’r Grant Cymorth Tai?
O fis Ebrill 2020 cafodd y Grant Cefnogi Pobl ei newid i Grant Cymorth Tai.
Mae’r Grant Cymorth Tai yn disodli’r Rhaglen Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a Gorfodi Rhentu Doeth Cymru.
Beth mae’r Tim yn ei wneud?
Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru Dîm sy’n gyfrifol am ddatblygu, monitro ac adolygu gwasanaethau cynnal sy’n ymwneud â thai.
Pa gefnogaeth mae gwasanaethau yn eu gynnig?
Mae’r Grant Cymorth Tai yn raglen a ariennir gan Lywodraeth Senedd Cymru sy’n ymrwymedig i ddarparu safon bywyd gwell i bobl ddiamddiffyn drwy eu cefnogi i fyw’n annibynnol.
Pwy ydym yn ei helpu?
Mae’r Grant Cymorth Tai yn ariannu rhaglen eang ac amrywiol o gefnogaeth sy’n ymwneud â thai sy'n cyrraedd pobl wahanol, ond yr un mor ddiamddiffyn yn y gymdeithas.
Am ragor o wybodaeth, gweler y dogfennau amgaeedig neu cysylltwch â'r Tîm ar cefnogipobl@conwy.gov.uk