Rhentu Doeth Cymru
Mae’n rhaid i holl landlordiaid Cymru fod wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Mae gwefan RhDC yn galluogi unrhyw un i wirio os yw’r perchennog wedi cofrestru.
Mae’r unigolyn sy’n rheoli’r denantiaeth, un ai’r perchennog neu’r asiantaeth yn gorfod bod â thrwydded â RhDC ac yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Gallwch wirio os oes gan rywun drwydded yn ogystal â’r Cod Ymddygiad ar wefan RhDC.
Ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich landlord neu asiantaeth cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC)
Mae’n ofynnol ar y rhan fwyaf o eiddo rhent preifat yng Nghymru i feddu ar dystysgrif EPC ac i gwrdd â safonau lleiafswm effeithiolrwydd ynni.
Mae’n rhaid i landlordiaid ddarparu copi o EPC dilys i denant neu ddarpar-denant.
Eiddo gydag EPC gradd F neu G
Oni bai fod eiddo wedi’i eithrio mae’r landlord yn torri’r gyfraith os bydd yn creu tenantiaeth newydd ar gyfer eiddo sydd â gradd F neu G. Gall arwain at ddirwy i’r landlord.
Gallwch wirio os yw’r landlord wedi eithrio’r eiddo drwy chwilio ar y gofrestr gyhoeddus.
Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)
Mae pob eiddo gyda mwy na un aelwyd yn Dai Amlfeddiannaeth. Mae gan Gonwy fwy o Dai Amlfeddiannaeth nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae’r gyfraith yn nodi y dylai rhai Tai Amlfeddiannaeth fod yn drwyddedig. Mae’r broses drwyddedu yn sicrhau fod yr eiddo a’r landlord yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig.
Ym Mae Colwyn, Llandudno a Phensarn. Mae Conwy yn disgwyl i fathau ychwanegol o Dai Amlfeddiannaeth i gael eu trwyddedu.
Os ydych eisiau gwirio bod gan eich landlord y drwydded gywir cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk
Diogelwch Tân
Gwiriwch fod eich cartref yn cwrdd â’r safonau diogelwch tân drwy gysylltu â https://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/
Iechyd a Diogelwch
Mae’n rhaid i landlordiaid wneud yn siŵr fod eu heiddo yn cwrdd â’r safonau iechyd a diogelwch. I wneud ymholiad cysylltwch â regulatoryservices@conwy.gov.uk