Browser does not support script.
Diben yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yw darparu tystiolaeth gadarn ar gyfer y Strategaeth Dai Leol a darparu tai fforddiadwy yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Caiff yr asesiad ei gynnal yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Prif ganfyddiad yr asesiad oedd bod angen mwy o dai fforddiadwy yn y Sir. Nid yw’r cyflenwad o dai newydd, a thai fforddiadwy yn benodol, wedi dal i fyny â'r galw. Nododd yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yr angen am 1,145 tŷ fforddiadwy ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, sydd gyfwerth â 229 uned y flwyddyn. Nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys yr unedau fforddiadwy sydd wedi'u clustnodi sydd eisoes â chaniatâd cynllunio, wedi’u neilltuo yn y CDLl neu’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.