Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau clywed gennych chi fel tenant rhandir neu breswylydd sydd ar y rhestr aros ar gyfer rhandiroedd. Llenwch yr arolwg byr isod. Bydd eich ymatebion yn ein helpu ni i lunio Strategaeth Rhandiroedd a fydd yn egluro wrth ein preswylwyr beth yw ein nodau ar gyfer rheoli rhandiroedd yng Nghonwy dros y 5 mlynedd nesaf.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 14 Chwefror 2025