Wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae gweithrediadau'r Cyngor heb os yn effeithio ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth - yn gadarnhaol ac yn negyddol. Mae Ecolegydd y Cyngor yn cynghori adrannau eraill ar arfer gorau ar gyfer bioamrywiaeth ar draws holl feysydd swyddogaeth y Cyngor.
Gall datblygu tir ac adeiladau gael effeithiau difrifol ar fywyd gwyllt ac mae’r Ecolegydd yn chwarae rhan hanfodol o ran cynghori sut y gellir lleihau hyn drwy:
- Ddiogelu’r safleoedd mwyaf gwerthfawr
- Diogelu bywyd gwyllt, er enghraifft, mae ystlumod ac adar sy'n nythu yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol
Mae Conwy, gyda rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, ynghyd â chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill, yn bartner sefydlol o Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, sy'n cadw a rheoli data bywyd gwyllt yn y rhanbarth.Mae'r data a reolir gan Cofnod yn ein cynorthwyo i sicrhau bod y penderfyniadau a wna'r Cyngor yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael.
Os ydych angen cyngor ynglŷn ag unrhyw waith rydych yn ei wneud a all gael effaith ecolegol yna e-bostiwch affch@conwy.gov.uk.
Bywyd gwyllt sy'n cael ei warchod ac adeiladau