Awydd glanhau eich ardal leol ond heb yr offer cywir? Ewch i un o Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a’i fenthyg yn rhad ac am ddim!
Mae eich hybiau lleol yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch i gynnal ymgyrch glanhau diogel. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau (sydd yn hanfodol ar gyfer cadw eich sachau ar agor yn y gwynt!). Mae’r hybiau wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol i ddileu sbwriel a gwastraff.
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru i gefnogi Caru Cymru. Y weledigaeth yw i Caru Cymru gael ei gydblethu i fywyd yng Nghymru, er mwyn iddo ddod naturiol i bawb wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref a glanhau ar ôl eich ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.
Dewch o hyd i’ch hyb codi sbwriel lleol yng Nghonwy trwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.