- 2 leoliad ar gael
- Tachwedd 2023 - Medi 2024
- Tâl: £250.00 yr wythnos.
Trwydded gyrru yn hanfodol.
Er nad yw llety’n cael ei ddarparu, rydym ni'n fodlon rhoi cyngor ar yr ardal leol a chwmnïau gosod lleol.
Beth fydda i'n ei gael ar y lleoliad?
- Dealltwriaeth o sut mae gwarchodfeydd natur a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu rheoli.
- Gwybodaeth am wahanol gynefinoedd a rhywogaethau.
- Arolygu llwybrau cerdded cyhoeddus gydag ychydig o waith dilynol.
- Cyfleoedd i ymarfer a datblygu sgiliau rheoli safle fel ffensio, cynnal a chadw llwybrau troed, gosod isadeiledd, rheoli coetiroedd, ac ati.
- Archwiliadau diogelwch gwarchodfeydd a gwaith dilynol.
- Cyfle i fynd ar gyrsiau hyfforddi.
- Cyfle i wneud cysylltiadau yn y sector cefn gwlad.
Beth fydda i'n ei wneud?
- Arolygu a chynorthwyo i ddatblygu llwybrau cerdded a hyrwyddir, rhwydwaith hawl tramwy.
- Gwaith rheoli ymarferol ym Mharc Gwledig y Gogarth a Gwarchodfeydd Natur Lleol eraill.
- Cynllunio, blaenoriaethu a gwneud gwaith rheoli ymarferol mewn nifer o wahanol warchodfeydd natur ledled y sir, rhywfaint o waith dehongli, cynorthwyo’r cyhoedd gyda’u hymholiadau.
Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni - Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
Warden Parc Gwledig ar 01492 874151 / sally.pidcock@conwy.gov.uk
Cefn Gwlad Warden ar 07733 012842 / lesley.lawson@conwy.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Mehefin 2023