Cyfeirnod Grid: SH 779782
Mae'r coetir prydferth yma'n gorwedd rhwng Parc Bodlondeb a glan ddeheuol Aber Conwy. Mae cysylltiadau llwybr troed da iawn o'r dref a hefyd nifer o lwybrau troed drwy'r goedwig. Mae toriadau yn y canopi ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol o'r goedwig yn rhoi golygfeydd gwych i chi dros yr aber ac ar draws y môr tuag at y Gogarth. Bydd llyfryn cysylltiedig (gweler islaw) o gymorth i chi chwilio'r ardal, tra'n darparu gwybodaeth ar ei hanes a'i bywyd gwyllt.
Mae Bodlondeb yn ardal 7.6 ha o goetir cymysg sy'n gorwedd ar graig asidig. Mae derw cynhenid, bedw, ac ynn yno ond yn y gorffennol plannwyd llawer o goed ffawydd, Pinwydden yr Alban a derw bytholwyrdd. Mae llawer o goed sycamorwydden yn y goedwig gyda choed ceirios ac ywen hefyd yn tyfu yno. O fewn y coed mae nodwedd anarferol, sef lôn gelyn.
Mae'r coed yn gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar a glöynnod byw, yn cynnwys:
Mae rhaglenni gwaith rheoli'r safle yma'n cael eu llunio'n flynyddol ac yn cael eu gweithredu gan y warden Cefn Gwlad, lleoliadau myfyrwyr a wardeiniaid gwirfoddol.
Cwrs Cyfeiriannu Bodlondeb
Mae cwrs cyfeiriannu parhaol wedi'i sefydlu i chi ei fwynhau yn y warchodfa natur. Gallwch lawrlwytho'r cyfarwyddiadau isod:
Taflen Cyfeiriannu Bodlondeb (Ffeil PDF)
Rheolaeth Cyfeiriannu Bodlondeb (Ffeil PDF)
Taflen Atebion Cyfeiriannu (Ffeil PDF)