welsh government logo
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella’r amddiffynfeydd llifogydd arfordirol o amgylch arfordir y sir er mwyn gallu wynebu her newid hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol.
Mae Llanfairfechan yn un lleoliad sydd wedi’i enwi lle gallai’r cynlluniau ddenu arian i leihau’r perygl llifogydd arfordirol a gwella mynediad amwynderau ar y blaendraeth.
Beth yw’r broblem?
Mae amddiffynfeydd arfordirol presennol Llanfairfechan yn cynnwys cyfuniad o forgloddiau gyda chreigiau amddiffyn mewn mannau a thraethau tywod a graean gyda grwynau pren.
Ar hyn o bryd, mae tonnau’n aml yn torri dros ben y prif amddiffynfeydd. Mae hyn wedi arwain at lifogydd mewn eiddo cyfagos ac yn yr isadeiledd lleol yn y gorffennol.
Mae ail forglawdd amddiffyn rhag llifogydd ar hyd ymyl y ffordd, a godwyd yn 2012, wedi helpu rhywfaint i leihau effaith llifogydd yn sgil tonnau’n torri drosodd. Fodd bynnag, mae yna berygl sylweddol o lifogydd arfordirol o hyd, fel y dengys digwyddiadau diweddar, modelu hydrolig ac asesiad o donnau’n torri drosodd. Mae disgwyl i’r perygl gynyddu wrth i ni weld effeithiau’r newid yn yr hinsawdd - yn enwedig cynnydd yng nghyfartaledd lefelau’r môr.
Beth yw’r cynlluniau ar gyfer Llanfairfechan?
Man cyhoeddus - gwelliannau i’r maes parcio
- Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 9 Medi 2024
- Gwaith yn dod i ben: diwedd mis Tachwedd (yn dibynnu ar y tywydd)
Byddwn yn gosod arwyneb newydd ar y maes parcio presennol ac yn diwygio ei gynllun, yn ogystal â:
- gwella’r draeniau
- gosod mannau gwefru cerbydau trydan
Bydd maes parcio’r promenâd ar gau yn llwyr ar rai adegau yn ystod y gwaith – pan fydd yn bosibl, bydd nifer gyfyngedig o fannau parcio ar gael.
Amddiffynfeydd arfordirol
Mae canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a gwblhawyd yn 2018 yn dangos cefnogaeth gref gan y gymuned i gynyddu uchder y morglawdd.
Rydym yn cynnig cynyddu uchder y wal bresennol ar hyd y 725m. Byddai hyn yn golygu ychwanegu rhwng 200mm a 500mm o wal newydd ar ben y morglawdd presennol.
Byddai hyn yn gwella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd er mwyn lleihau difrod i eiddo preswyl a busnes.
Yn dilyn llifogydd yn ystod Storm Peirrick ym mis Ebrill 2024, rydym yn defnyddio’r data a gasglwyd i adolygu’r cynlluniau amddiffynfeydd arfordirol ar gyfer Llanfairfechan. Rydym wedi tynnu’r cais cynllunio gwreiddiol yn ôl tra byddwn yn gwneud hyn.
Sesiwn galw heibio i’r cyhoedd: Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024 - 2.30pm tan 6.00pm
Neuadd Gymunedol Llanfairfechan,
Village Road,
LL33 0AB
Sut fydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth?
Uchder yw’r elfen bwysicaf i leihau risg llifogydd oherwydd lefelau dŵr uchel. Cyflawnom arolygon geodechnegol a strwythurol yn 2023 i ganfod a yw’r amddiffynfeydd presennol yn ddigon sefydlog i ni allu adeiladu ar eu pennau. Mae hyn yn golygu y gallwn godi’r uchder heb orfod dymchwel a disodli’r amddiffynfa gyfan.
Oes cyllid ar gael?
Nid ydym wedi cael cyllid ar gyfer gwaith adeiladu’r morglawdd eto, dim ond ar gyfer y gwaith dylunio. Rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am 85% o arian cyfatebol drwy raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2024/25. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fydd yn ariannu’r 15% sy’n weddill.
Mae’r gwelliannau i’r maes parcio yn cael eu hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a chyllid cyfalaf y Cyngor. Rydym yn disgwyl codi ffioedd parcio yn y maes parcio ar ôl ei wella, a fydd yn cyfrannu tuag at y gost.
WG_Funded_land_mono
levelup-logos-e
Beth am fynediad i’r traeth?
Caniateir mynediad i draeth Llanfairferchan drwy’r flwyddyn, gan gynnwys drwy gydol y gaeaf drwy lithrfa’r Clwb Hwylio, fodd bynnag, caiff y llifddorau eu cau ac felly ni fydd mynediad ar gael mewn achosion lle disgwylir storm neu lanw uchel iawn. Ni fyddai’r cynigion hyn yn cael effaith ar y mynediad hwn.
Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud?
Amserlen bosib ar gyfer y gwaith - hyd, dyddiad cychwyn posib.
Ni allwn gychwyn gweithio ar yr amddiffynfeydd arfordirol nes y byddwn wedi sicrhau cyllid. Os byddwn yn llwyddo i gael y cyllid ar gyfer yr amddiffynfa arfordirol, gallai’r gwaith hwn gychwyn ddechrau haf 2024.Mae’r gwaith yn debygol o gymryd 6 mis i gyd.
Os na fyddwn yn cael cyllid i wneud y gwaith ar yr amddiffynfa arfordirol, bydd yn mynd ati o hyd i wella’r maes parcio yn 2024.
Y Cob
Gorlifodd y llanw dros ran o wal y môr ar hyd y Cob yn Llanfairfechan yn ystod storm ar 5 Hydref 2021. Nid eiddo’r Cyngor yw wal y môr, ond mae hawl tramwy cyhoeddus y tu cefn i’r rhan lle bu’r dŵr yn gorlifo.
Ar 23 Tachwedd 2021, cymeradwyodd y Cabinet y dylid cyflawni gwaith atgyweirio amddiffynfeydd meini brys gyda chost o oddeutu £275,000 ar gyfer y darn hwnnw, gydag ymgais i adennill y costau yn amodol ar ganfod perchennog y tir.
Cafwyd difrod pellach gan stormydd ddiwedd mis Tachwedd a Rhagfyr ac rydym wedi cyflawni asesiadau ac arolygon strwythurol ychwanegol.
Dechreuodd gwaith amddiffynnol ym Mawrth 2022 i osod creigiau amddiffyn ar y morglawdd.
Roedd ail gam y gwaith ym Medi 2022 yn ymestyn a chwblhau’r amddiffyniad carreg. Cafodd y llwybr hygyrch hefyd ei ail-gyflwyno.
Adborth
Adran Risg Llifogydd ac Isadeiledd:
Ebost: affch@conwy.gov.uk