Gwelliannau Glan y Môr Bae Colwyn – Cam 1 a 2
Gan fod y Prosiect cyfan yn cynnwys gwaith amddiffyn yr arfordir a gwelliant Amgylcheddol, mae wedi llwyddo i gael arian o wahanol ffynonellau. Mae agweddau amddiffyn yr arfordir y cynllun wedi elwa o gyllideb flynyddol wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau Amddiffyn yr Arfordir i Gymru gyfan.
Mae’r gwaith Gwella Amgylcheddol ar gyfer Cam 1 wedi’i gwblhau o dan Raglen Adfywio Trefi Arfordirol Llywodraeth Cymru sydd wedi’i ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (cronfa yn targedu ardaloedd wedi eu nodi o fod angen buddsoddiad cynaliadwy i helpu i sbarduno adfywio hirdymor), ynghyd â chyllid Ardal Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru. Mae Cam 2 y Prosiect wedi ei wneud o dan Raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru, gyda chyllid eto o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ogystal â chynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.
Mae dwy elfen y cynllun hefyd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy'n parhau i archwilio ffynonellau cyllid posib a allai gefnogi camau nesaf y Prosiect Glan y Môr ac felly gyfrannu at ddyheadau adfywio ehangach yn yr ardal.
ERDFCliciwch yma i ddarllen mwy am Gronfeydd yr UE yng Nghymru