Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llandudno - Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol


Summary (optional)
Edrychwch ar gynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol yn Llandudno.
start content

Llinell amser

Gorffennaf 2024

Ar ôl proses dendro gystadleuol, rydym wedi penodi MWT fel y prif gontractwr ar gyfer y gwaith. Bydd y gwaith ym Mhenmorfa yn digwydd mewn nifer o leoliadau, gan ddechrau yng Ngorffennaf 2024. Bydd y gwaith yn Nhraeth y Gogledd yn dechrau ym Medi 2024 a bydd yn canolbwyntio ar y pwll padlo a’r orsaf RNLI.

Yn ogystal â’r gwaith newydd hwn, byddwn yn gwneud atgyweiriadau i’r wal bresennol ar hyd Traeth y Gogledd er mwyn atgyweirio diffygion. Bydd y gwaith i’r tair wal bresennol ym Mhenmorfa hefyd yn atgyweirio’r diffygion presennol megis craciau a cherrig copa rhydd.

Yn y ddau leoliad, mae’r canolbwynt ar gynnal y llinellau amddiffyn presennol ac adeiladu rhannau newydd o amddiffynfeydd lle canfuwyd gwendidau posibl gan ein model arfordirol.

Penmorfa

  • Ail-osod logiau atal mewn 7 o leoliadau lle maent wedi’u lleoli’n hanesyddol. Yna bydd hyn yn creu rhwystr parhaus yn y waliau eilaidd a thrydyddol yn ystod digwyddiadau o lifogydd. 
  • Ymestyn y wal bresennol sy’n mynd ar hyd cefn y palmant ar Rodfa’r Gorllewin am oddeutu 50m, gyda’r un uchder ac ymddangosiad â’r wal bresennol.  
  • Codi ymyl y palmant o amgylch mynedfa maes parcio Dale Road, ynghyd â chodi tir gerllaw er mwyn cynyddu cadernid yn ystod cyfnodau o orlifo. 
  • Adeiladu ramp mynediad newydd o ddiwedd y prif forglawdd ar waelod y maes parcio, er mwyn uno â’r llwybr troed presennol. Bydd hyn yn galluogi mynediad parhaus wrth gryfhau’r amddiffynfeydd yn y lleoliad hwn. Hefyd byddwn yn codi tir i’r de o’r orsaf bwmpio ar Ffordd yr Abaty.

 

Traeth Y Gogledd

  • Gosod rhwystrau newydd y gellir eu dadosod yn ochr a chefn y siop gadeiriau i’r dwyrain o’r Senotaff
  • Atgyweirio ac amnewid y llifddorau presennol mewn amryw o leoliadau.
  • Adeiladu wal newydd tu ôl i’r pwll padlo yn mynd ar hyd cefn y llwybr troed, gan ddisodli’r bolardiau concrid a chadwyni presennol.
  • Adeiladu strwythur mynediad ramp newydd i’r gorllewin o’r pwll padlo er mwyn cau bwlch yn yr amddiffynfeydd.
  • Gosod llifddor newydd ar draws y fynedfa i orsaf cwch achub yr RNLI.
  • Adeiladu morglawdd newydd i ddwyrain yr orsaf cwch achub ar hyd cefn y llwybr troed. Mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu nodi fel mannau gwan posibl o fewn yr amddiffynfeydd.

 

Mawrth 2024


Ar 26 Mawrth 2024, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr Achos Busnes Llawn ar gyfer Cynllun Gwelliannau Arfordirol Llandudno, gyda buddsoddiad posibl o £5.2 miliwn.  

Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â pherygl llifogydd presennol y dref. Yn Llandudno, mae hyd at 4,982 o eiddo preswyl a 1,056 o eiddo masnachol mewn perygl o lifogydd arfordirol dros y 50 mlynedd nesaf, a bydd y rhain yn elwa o’r buddsoddiad hwn, gan y bydd yn lleihau’r perygl o lifogydd. 

Bydd y cynllun arfaethedig yn gwneud gwelliannau i’r system amddiffyn bresennol mewn mannau gwan hysbys. Bydd yn sicrhau safon fwy dibynadwy a chyson o amddiffyniad ar gyfer Llandudno. Bydd y prosiect hwn hefyd yn mynd i’r afael â’r perygl o’r amddiffynfeydd presennol yn cael eu goresgyn yn ystod stormydd. 

Mae’r cynllun yn cynnwys gwneud gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol Traeth y Gogledd a Phenmorfa.  

Y camau nesaf

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach yn 2024.

Rhagfyr 2023

Gwaith modelu llifogydd

Mae ein harbenigwyr modelu llifogydd, H R Wallingford, wedi diweddaru model llifogydd Llandudno i ddeall sut y gallai’r dref gael ei heffeithio gan lifogydd arfordirol.  Mae’r rhagdybiaethau llifogydd newydd ar gyfer Traeth y Gogledd a Phenmorfa’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar sut y gallai llifogydd newid dros amser o ganlyniad i newid hinsawdd, wrth i lefelau’r môr godi a thonau mawr a stormydd ddod yn fwyfwy cyffredin.

Mae’r data wedi’i gynhyrchu ar gyfer y cyfnodau hyn:

  • Y flwyddyn 2040 (ymhen 20 mlynedd)
  • Y flwyddyn 2070 (ymhen 50 mlynedd)
  • Y flwyddyn 2122 (ymhen 100 mlynedd)

Mae’r rhagdybiaethau modelu llifogydd ar gyfer dwy senario:

  • 'Fel y mae hi' - lle mae’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn cael eu cynnal a’u cadw fel arfer
  • 'Gadael pethau' - senario ddamcaniaethol lle nad yw amddiffynfeydd llifogydd presennol yn cael eu cynnal a’u cadw, ac yn hytrach yn mynd â’u pen iddynt.

‘Risg llifogydd’ yw’r tebygolrwydd y bydd llifogydd.  Rydym yn cyfrifo hyn fel siawns y bydd llifogydd mewn lleoliad yn ystod unrhyw flwyddyn.

Felly, os oes 1% o siawns y bydd llifogydd mewn lleoliad bob blwyddyn, mae siawns o 1 mewn 100 o lifogydd yn ystod unrhyw flwyddyn.  Nid yw hyn yn golygu y bydd llifogydd mewn lleoliad un flwyddyn ac wedyn na fydd llifogydd yno am y 99 mlynedd nesaf.  Nid yw ’chwaith yn golygu y bydd llifogydd eleni os nad oes llifogydd wedi bod am 99 mlynedd.

Po isaf yw’r ganran, po leiaf o siawns sydd o lifogydd yn ystod unrhyw flwyddyn.  Po uchaf y ganran, po uchaf y siawns y bydd llifogydd yn ystod unrhyw flwyddyn.  Mae’r siawns hon bob tro yno – eleni, y flwyddyn nesaf ac yn y dyfodol.

Sylwer:
Mae’r mapiau’n dangos y risg i ardal gyffredinol, nid i adeiladau unigol.
Gall llifogydd gael eu hachosi gan ffynonellau eraill sydd ddim i’w gweld ar y mapiau hyn - fel carthffosydd neu ddraeniau lleol.

Delwedd 1:  Traeth y Gogledd – ‘Gadael pethau’ o gymharu â ‘fel y mae hi’ yn achos digwyddiad 2% o siawns o lifogydd bob blwyddyn (1 mewn 50 mlynedd)

Mae’r ddelwedd hon yn cymharu dwy ragdybiaeth o lifogydd yn Llandudno o Draeth y Gogledd: os nad yw’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn cael eu cynnal ac yn mynd â’u pen iddynt (gadael pethau) ac, os yw’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn cael eu cynnal a’u cadw fel arfer (fel y mae hi).

Mae’r delwedd yn dangos y dylai’r amddiffynfeydd llifogydd presennol ar Draeth y Gogledd atal llifogydd mawr mewn storm 1 mewn 50 mlynedd - ond mae ambell fan lle gallai dŵr ddod dros yr amddiffynfeydd

Delwedd 2:  Traeth y Gogledd – ‘Gadael pethau’ o gymharu â ‘fel y mae hi’ yn achos digwyddiad 0.5% o siawns o lifogydd bob blwyddyn (1 mewn 200 mlynedd)

 Mae’r delwedd yn dangos y dylai’r amddiffynfeydd llifogydd presennol atal llifogydd mawr mewn storm sy’n llai tebygol ond yn fwy difrifol.  Ond mae ambell fan lle gallai dŵr ddod dros yr amddiffynfeydd, yn enwedig yn y dwyrain ger yr orsaf RNLI newydd.

Delwedd 3:   Penmorfa – ‘Gadael pethau’ o gymharu â ‘Fel y mae hi’ yn achos digwyddiad 2% o siawns o lifogydd bob blwyddyn (1 mewn 50 mlynedd)

Mae’r ddelwedd hon yn cymharu dwy ragdybiaeth o raddau llifogydd yn Llandudno o Benmorfa: os nad yw’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn cael eu cynnal ac yn mynd â’u pen iddynt (gadael pethau) ac, os yw’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn cael eu cynnal a’u cadw fel arfer (fel y mae hi).

Mae’r ddelwedd hon yn dangos y dylai’r amddiffynfeydd llifogydd presennol atal rhywfaint o lifogydd mewn storm 1 mewn 50 mlynedd.  Ond mae rhai ardaloedd (yn enwedig o amgylch maes parcio Dale Road) lle gallai dŵr ddod dros yr amddiffynfeydd a llifo i ardaloedd preswyl.

Delwedd 4:  Penmorfa – ‘Gadael pethau’ o gymharu â ‘fel y mae hi’ yn achos digwyddiad 0.5% o siawns o lifogydd bob blwyddyn (1 mewn 200 mlynedd)

Mae’r ddelwedd yn dangos y gallai’r amddiffynfeydd llifogydd presennol fod yn annigonol i atal llifogydd mewn ardaloedd preswyl cyfagos mewn storm sy’n llai tebygol, ond yn fwy ei maint ac yn fwy difrifol.

Y camau nesaf

Gan ddefnyddio’r data newydd hwn ar risg llifogydd, byddwn yn llunio ein cynigion terfynol ar gyfer gwelliannau i wella’r amddiffynfeydd llifogydd presennol.  Bydd hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliadau ar safle Traeth y Gogledd o fis Hydref 2023 i gynorthwyo wrth ddylunio gwelliannau.

Anelwn at fod yn barod i ddechrau adeiladu ar yr amddiffynfeydd llifogydd yn 2024.

Ionawr 2023

Rydym wedi sicrhau cyllid o’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i dalu am achos busnes llawn a dyluniad manwl.

Medi 2022

Mae’r Cabinet wedi penderfynu derbyn cyllid gan y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i barhau gyda’r dewis ‘dim tywod’ er mwyn lleihau’r risg o lifogydd arfordirol i Draeth y Gogledd a Phenmorfa.

Awst 2022

Mae cangen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym na ellir ariannu’r dewis o roi tywod ar Draeth y Gogledd gan y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP).

Mae’r rhaglen hon wedi ei thargedu at leihau’r perygl o lifogydd arfordirol, ac nid ydynt yn credu y byddai’r dewis o roi tywod yn rhoi unrhyw fuddion ychwanegol ar gyfer amddiffyn yr arfordir.  Maent yn ystyried na ellir cyfiawnhau’r gost o £23.9 miliwn ar gyfer y dewis tywod, tra bod y dewis o godi wal y promenâd ar gost o £6.7 miliwn yn rhoi’r un budd o ran amddiffyn yr arfordir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwerthfawrogi bod awydd cryf yn lleol am draeth tywod ar ran benodol o Draeth y Gogledd, ond nad y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol yw’r ffordd briodol o gyflawni hyn, ar gost mor uchel.

Mae Cynghorwyr ar y Pwyllgor Craffu wedi cytuno, fel blaenoriaeth, i lobïo gweinidogion Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Newid Hinsawdd a Llywodraeth y DU i geisio cyllid.

Mehefin 2022

Y mae’r achos busnes amlinellol wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Yr ydym bellach yn gweithio ar y manylion sydd eu hangen ar gyfer yr achos busnes llawn, gan symud ymlaen â’r dyluniadau cysyniad ar gyfer y dewisiadau yn yr achos busnes amlinellol. Byddwn yn gweithio ar ymchwiliadau tir ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

Hydref 2021

Rydym wedi cyflwyno’r achos busnes amlinellol terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad technegol ac ystyriaeth yn erbyn amcanion y rhaglen.  Y cam nesaf fydd gwaith dylunio manwl ar y cynllun, a fydd yn golygu ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r gwaith a wnaed hyn yma ar y cynllun gwella amddiffyniad arfordirol wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy ei Raglen Rheoli Risg Arfordirol.  Byddwn yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian ar gyfer camau’r dyfodol, gyda rhywfaint o’r arian yn dod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mehefin 2021

Ar 8 Mehefin 2021, bu i’r Cabinet adolygu’r achos busnes amlinellol drafft a chreu rhestr fer o’r dewisiadau.  Bu i’r Cabinet nodi mai eu dewis a ffefrir ar gyfer Traeth y Gogledd oedd gosod tywod yn lle’r gefnen gerrig rhwng Vaughan Street a Chornel y Plant.

Gorffenaf 2019

Trefnodd Fforwm Arfordirol Llandudno, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i ymgynghorwyr, sesiwn galw heibio cyhoeddus yng Nghanolfan Fictoria, Llandudno ddydd Gwener 27 a dydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2019.  Gallwch weld y Byrddau Cyflwyniad ar Amddiffynfeydd Llifogydd Llandudno.  Edrychodd trigolion ac ymwelwyr ar yr opsiynau sydd ar y rhestr fer ar gyfer rheoli traethau Llandudno a rhoi eu sylwadau.  Cyflwynwyd sylwadau hefyd drwy ein gwefan.

Rydym wedi crynhoi’r sylwadau a gafwyd mewn adroddiad i gyd-fynd â’r achos busnes amlinellol.

end content