Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Safleoedd Lansio


Summary (optional)
Ble gallwch chi lansio yng Nghonwy
start content

Lansio eich cwch

Os hoffech lansio eich cwch neu fad arall ar arfordir Conwy, dyma wybodaeth ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd i sicrhau y gallwch lansio yn ddiogel ac yn gyfreithlon:

Safleoedd lansio cyhoeddus i gychod

Mae’r llithrfeydd canlynol ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio i lansio.  Nid yw llithrfeydd na rampiau mynediad sydd wedi’u lleoli ar safleoedd heblaw’r rhai a restrir uchod wedi’u hawdurdodi i’r cyhoedd eu defnyddio, ac maent yn destun trefniadau arbennig.

Porth Eirias, Bae Colwyn, Bae Colwyn (LL29 8HH)

  • Pob cwch - ar gael i lansio cychod pŵer, di-bŵer a badau personol.

Llithrfa’r Beacons, Morfa Conwy, Conwy (LL32 8GN)

  • Pob cwch - ar gael i lansio cychod pŵer, di-bŵer a badau personol.

Llithrfa Penmaenmawr (LL34 6NJ)

  • Cychod heb eu pweru a chychod sy’n cael eu pweru DIM jetiau sgïo na cerbydau dŵr personol.
  • Defnyddir hon yn bennaf gan Glwb Hwylio Penmaenmawr. Oherwydd bod lle yn brin, dim ond 10 lansiad y dydd a ganiateir i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r clwb.  Caiff trigolion Penmaenmawr ac aelodau Clwb Hwylio Penmaenmawr gofrestru a lansio am ddim. Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio.

Llithrfa Llanfairfechan (LL33 0DA)

  • Cychod heb eu pweru a  chychod sy’n cael eu pweru DIM jetiau sgïo na cerbydau dŵr personol (oherwydd bod yna grwynau peryglus dan y dŵr). Cofrestru a lansio am ddim i aelodau Clwb Hwylio Llanfairfechan yn unig.  Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio neu ddal trwydded dymhorol.

Llithrfa Venue Cymru, Traeth y Gogledd, Llandudno (LL30 1BB)

  • Cychod heb eu pweru a chychod sy’n cael eu pweru DIM jetiau sgïo na cerbydau dŵr personol
  • Defnyddir hon yn bennaf gan Glwb Hwylio Llandudno. Oherwydd bod lle yn brin, dim ond 10 lansiad y dydd a ganiateir i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r clwb. Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio. Gellir storio trelars ar y cerrig mân ond rhaid parcio cerbydau oddi ar y promenâd.

Parcio

Caiff unigolion sy’n dal trwydded lansio dymhorol ddilys barcio eu cerbyd am ddim ym maes parcio’r Beacons a Llithrfa Porth Eirias.  Nid yw’r consesiwn hwn yn berthnasol i unrhyw faes parcio arall a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Giatiau Storm

Gallai cau’r giatiau storm yn ystod gweithdrefnau gweithredol effeithio ar fynediad at lithrfeydd.  Nid oes cyfyngiadau giatiau ar lithrfeydd y Beacons na Phenmaenmawr ac fe allent gynnig safle lansio arall.

Gallwch wneud cais i gofrestru eich llong ar gyfer lansiad neu brynu trwydded dymhorol yma:

 

end content