P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp canu neu grŵp cymdeithasol, dechrau gwneud ioga neu ond eisiau sgwrs ar y ffôn, gallwn ni helpu. Ffoniwch neu anfonwch e-bost a bydd un o’n Swyddogion Lles cyfeillgar yn gofyn i chi am eich diddordebau a’r hyn sy’n bwysig i chi. Gallwn ddarparu gwybodaeth ac awgrymu gweithgareddau, grwpiau neu gefnogaeth i chi i ddiwallu eich anghenion.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni:
Edrychwn ymlaen at ddod i'ch adnabod!
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r Gronfa’n anelu at wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws ar GOV.UK.
Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU