ConwyFoodPartnershipMenter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw Partneriaeth Bwyd Conwy sydd yn dod ag aelodau o’r gymuned at ei gilydd i weithio tuag at system fwyd sy’n fwy gwydn, er mwyn sicrhau bod bwyd yn cael ei gludo am llai o filltiroedd, llai o wastraff bwyd, a mynediad gwell at fwyd maethlon, fforddiadwy i bawb.
Rydym ni’n cefnogi ystod o brosiectau sy’n ymwneud â bwyd, a’r nod yw cynyddu mynediad at gynnyrch sy’n cael ei dyfu’n lleol, cynyddu’r wybodaeth a sgiliau yn y gymuned ynglŷn â thyfu bwyd, hwyluso sesiynau maeth a sgiliau coginio a lleihau ein hôl-troed carbon.
Prosiectau presennol
Mae Partneriaeth Bwyd Conwy yn cefnogi’r prosiectau canlynol ar hyn o bryd:
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Conwy, i dynnu sylw at grŵp neu brosiect rydych chi’n meddwl fyddai’n addas ar gyfer gwaith partneriaeth, neu i holi am gyllid, e-bostiwch liz.gordon@conwy.gov.uk.
Funded-by-Welsh-GovernmentCaiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Datblygu Partneriaeth Bwyd, a’i gefnogi gan Synnwyr Bwyd Cymru.
Nod y cyllid yw datblygu partneriaethau bwyd traws-sector a fydd yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o sectorau gwahanol i helpu i fynd i’r afael ag ystod o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan geisio sicrhau bwyd da i bawb.