Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pwll Padlo Penmaenmawr


Summary (optional)
start content

Lleoliad:  Pwll Padlo Penmaenmawr, Ffordd y Traeth, Penmaenmawr LL34 6AZ.

Yng nghanol ardal syfrdanol o hardd ar arfordir gogledd Cymru, dafliad carreg o’r A55.  Gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae pwll padlo Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn i ymwelwyr a’r bobl leol fel ei gilydd. Mae’r pwll padlo traddodiadol ar siâp diemwnt ac mae’n mesur 11m x 8m.  Mae’n 1 droedfedd / 0.3 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf, ac mae hefyd yn cynnwys rhaeadr.

Gallwch fynd at y pwll padlo ar droed o’r briffordd drwy fynd ar hyd tanffordd, neu os ydych chi’n gyrru, mae yna rywfaint o fannau parcio ar un pen i’r promenâd.

Mae’r ‘Caffi Glan Môr' wedi’i leoli 50 llath yn unig o’r pwll padlo, ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos o fis Mawrth i fis Tachwedd, gan gynnig amrywiol fwydlenni megis brecwast trwy’r dydd, dewisiadau heb glwten, gamwn, a sgampi, i enwi ychydig yn unig.  Mae'n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer y gallwch eu hyfed yn y caffi neu’r tu allan yn yr haul. Ar y diwrnodau heulog, poeth hynny gallwch brynu hufen iâ, lolis iâ a llawer mwy. Gallwch hefyd logi’r cabanau gwyliau gerllaw am y dydd – ewch draw i siarad â pherchnogion y caffi am ragor o wybodaeth. Mae parc i blant gerllaw sy’n cynnwys nifer o wahanol offer chwarae. Er diogelwch ychwanegol, mae ffens derfyn o amgylch y parc.

O ganlyniad i waith cynnal a chadw dyddiol bydd y pwll nofio ar agor o 10am tan 7pm.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol/sylwadau am byllau padlo, anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk neu ffoniwch 0300 4569 525.

Rheolau pyllau padlo plant

  • Nid yw’r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio’n swyddogol
  • Rhaid i blant ifanc gael eu goruchwylio gan oedolyn
  • Dim rhedeg yn y pwll nac o’i amgylch
  • Dim deifio
  • Dim bwyd na diod yn y dŵr
  • Dim gwydr o amgylch y pwll
  • Peidiwch â gadael ysbwriel yma
  • Dim cŵn o gwbl yn yr ardal yma
  • Gwisgwch esgidiau pwll nofio/glan môr priodol

Cwestiynau cyffredin

Pa fisoedd mae'r pyllau padlo ar agor?

Anelwn agor y pyllau padlo erbyn canol mis Mai a chau ganol mis Medi.

Pa mor fawr yw pyllau padlo Conwy? 

Dimensiynau pwll padlo
     Pwll padlo               Dimensiynau                       Cyfaint dŵr           
 Craig y Don                                     116m x 21m x 0.66m                 1608 metrau ciwbig / 12,060 galwyn
 Llanfairfechan   17m x 6m x 0.8m  82 metrau ciwbig / 615 galwyn
 Penmaenmawr   11m x 8m x 0.33m 29 metrau ciwbig / 217 galwyn
 Llandrillo-yn-Rhos  17m x 8m x 0.5m 68 metrau ciwbig / 510 galwyn

Pa mor aml mae’ch staff yn mynd i’r pyllau padlo?

Bydd aelod o’r tîm yn ymweld â phob pwll nofio pob dydd.

Sut ydych chi’n glanhau’r pyllau?

Mae’r tasgau dyddiol yn cynnwys:

  • adlifo - gwrthdroi llif y dŵr i fflysio unrhyw halogydd o’r hidlydd
  • gwneud yn siŵr bod lefel y dŵr ar yr uchder iawn
  • ychwanegu a gwirio lefel y diheintydd cemegol
  • glanhau’r pwll a’r ardal ger y pwll

Sut a pha mor aml ydych chi’n profi’r dŵr?

Rydym ni’n cymryd darlleniadau clorin a pH ddwywaith y dydd. Mae cwmni annibynnol yn cynnal profion microbiolegol bob mis. 

Pam bod y pyllau nofio yn agor am 10am?

Mae hyn yn rhoi amser i’n tîm wneud y tasgau dyddiol (uchod).

Ydi’r pyllau yn cael eu draenio a’u hail-lenwi dros yr haf?

Anaml iawn y mae’n rhaid gwagio ac ail-lenwi pyllau padlo Craig y Don, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos. Oherwydd cylchrediad cyfyngol, caiff pwll padlo Llanfairfechan ei wagio a’i ail-lenwi’n amlach.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?