Cliciwch yma i wylio fideo am bwysigrwydd chwarae a chael gwared ar arwyddion dim gemau pêl
Os ydych chi'n credu y dylid cael gwared ar arwydd Dim Gemau Pêl yn eich cymuned chi, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwarae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Cymru ar 01492 523850 neu llewnch y ffurflen isod a’i hanfon ar e-bost i Nathania.scyner@conwy.gov.uk.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi hawl plant i chwarae yn unol â chynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Fodd bynnag, pan mae plant a phobl ifanc yn chwarae tu allan gofynnwn eu bod yn ystyried preswylwyr eraill yn yr ardal.
Pan mae cais i gael gwared ar arwydd Dim Gemau Pêl yn cael ei wneud cwblheir archwiliad o’r ardal ac ymgynghorir â phreswylwyr lleol, y cynghorydd lleol a Swyddog Lleol Cymorth Cymunedol yr Heddlu cyn gwneud penderfyniad i gael gwared ar yr arwydd.