Llenwch y Ffurflen Archebu a Hawlfraint isod, gan ddyfynnu cyfeirnodau’r ddogfen/dogennau rydych eu heisiau. Os nad ydych yn gwybod hyn, gallwch ddod o hyd iddo drwy naill ai chwilio drwy ein Catalog Ar-Lein neu gysylltu â’r Gwasanaeth Archifau am gymorth.
O bryd i’w gilydd, nid oes modd gwneud copïau gan fod y ddogfen yn rhy fregus, neu ei bod yn cynnwys data personol caeedig dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ac/neu mewn rhai achosion oherwydd cyfyngiadau hawliau eiddo deallusol. Bydd y Gwasanaeth Archifau’n rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir.
Os ydych yn bwriadu defnyddio copïau i’w cyhoeddi, rhaid i chi nodi hyn yn glir ar y ffurflen.
Darperir copïau am ffi fechan, sy’n amrywio gan ddibynnu ar natur y copi a’r hyn mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. I gael y rhestr ddiweddaraf o Ffioedd a Thaliadau, gweler y Gwasanaethau Eraill a Ddarperir gan yr Archifau.