Beth yw Casgliadau’r Archifau?
Mae’r Archifau yn cynnwys cofnodion, o unrhyw ddyddiad, yr ystyrir eu bod ag arwyddocâd digonol i hanes ardal ddaearyddol Bwrdeistref Sirol Conwy i’w cadw’n barhaol. Cafodd y cofnodion hyn eu creu gan:
- llywodraeth leol
- cyrff crefyddol
- ysgolion
- busnesau lleol
- unigolion preifat.
Gallai’r cofnodion fod ar ffurf:
- cyfrolau
- llythyrau
- ffotograffau
- papurau newydd
- cofrestrau etholiadol
- digidol
- mapiau a chynlluniau.
Bydd ein catalog ar-lein yn eich galluogi i chwilio a gweld disgrifiadau o’n cofnodion (nid y cofnod ei hun). Mae'r rhan fwyaf o’n cofnodion wedi eu cynnwys yn y catalog.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i rywbeth, cysylltwch â ni a byddwn yn gallu eich helpu.