Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn


Summary (optional)
Dewch am dro i’r ganolfan arddio, siop a chaffi yn Llandrillo-yn-Rhos.
start content

Gwybodaeth am Planhigfa Bryn Euryn Nurseries - fersiwn Easy Read

Mae Gwasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn llawn cyffro wrth gyhoeddi agoriad Planhigfa Bryn Euryn ar ei newydd wedd. Yn dilyn cau ar gyfer ailddatblygiad, rydym nawr ar agor i’r cyhoedd. Dewch i ymweld â’r ganolfan arddio a’r siop, neu am baned o de a thamaid blasus yn y caffi.

Mae’r Ganolfan Arddio, Siop a’r Caffi yn fenter ffantastig sy’n cynnig mentora cyflogaeth i bobl gydag anghenion sydd eisiau cael swydd â chyflog.

Rydym yn falch o arwain newid positif i bobl gydag anghenion sydd eisiau ddechrau eu gyrfaoedd, wrth sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad siopa o’r safon uchaf.

Byddwn yn arddangos y gorau o’n cynnyrch cartref a chynnyrch lleol, gan gynnwys eitemau gan ddetholiad o ddarparwyr a busnesau o’r ardal gyfagos. Mae’r caffi yn cael ei redeg gan ein hasiantaeth bartner, Hft.

Bryn Euryn LogoDewch i'n gweld ni:

Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn
Dinerth Road
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4YN

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am tan 4pm

Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
end content