Cewch fynediad i’n casgliad digidol yn syth
Ymuno yn eich llyfrgell leol - ewch i'ch llyfrgell leol gydag un math o brawf adnabod, sy'n cynnwys eich
cyfeiriad e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau.
*Gellir hefyd gwneud consesiwn ar gyfer pobl heb gartref sefydlog, ar ôl dangos prawf adnabod.
Os ydych o dan 16 oed, byddwch yn derbyn ffurflen ganiatâd ar gyfer defnyddio’r rhyngrwyd; bydd angen i riant neu warcheidwad ei llofnodi.
Unwaith y byddwch wedi dod yn aelod, gallwch:
Cyfrif Llyfrgell Ar-lein
Gallwch reoli eich cyfrif llyfrgell eich hun ar-lein drwy ‘Fy Nghyfrif’ ar y catalog llyfrgell.
- Bydd angen eich rhif PIN i fewngofnodi i'ch cyfrif i, adnewyddu eich eitemau, neu i ofyn am eitem benodol.
- Byddwch yn cael eich rhif PIN pan fyddwch yn ymuno â'r llyfrgell.
Anghofio eich PIN?
Os ydych eisoes yn aelod o'r llyfrgell, a’ch cyfeiriad ebost wedi ei gofrestru ar eich cyfrif, gallwch ddefnyddio adnodd ’Anghofio PIN’ ar y catalog llyfrgell.
Cysylltwch â’r llyfrgell neu cwblhewch y ffurflen ‘Rhif PIN ar-lein’. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa am eich PIN y diwrnod gwaith canlynol.