Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Problemau a Chyfleoedd


Summary (optional)
start content

Y materion allweddol ar gyfer y llwybr teithio llesol hwn yw:

Themâu a phroblemau:

Trefn Bresennol y Llwybr

  • Yn y man mwyaf cyfyng rhwng canllaw’r bont a’r rheiliau diogelwch, dim ond 1.4 metr o led yw’r droedffordd. Mae hynny’n creu gwrthdaro rhwng cerddwyr a beicwyr.
  • Ar y bont, mae’r ffordd tua 6.7 metr o led rhwng y cyrbiau, sydd yn llai na’r safon dylunio o 7.3 metr ar gyfer ffyrdd ag un lôn gerbydau, ac islaw’r safon sy’n ofynnol ar gyfer darparu lonydd beicio ar y ffordd.
  • Mae cyfyngiad uchder o 12 troedfedd ar yr A547 Ffordd Conwy, sy’n mynd dros y bont.
  • Mae’r bont yn ffordd answyddogol ar gyfer gwyro traffig pan mae twneli Conwy (A55) wedi cau.
  • Mae Pont Conwy’n ddolen a hyrwyddir ym Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor ar gyfer llwybrau teithio llesol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth ddigonol i alluogi beicwyr sy’n mynd tua’r gorllewin ar y llwybr a rennir oddi ar y ffordd ar hyd y Cob i ymuno â’r traffig ar y ffordd er mwyn croesi’r bont. Ar ôl croesi’r bont, mae arwyddion yn cyfeirio beicwyr i wneud tro pedol wrth y gylchfan fach i fynd yn ôl ar Lwybr 5 yn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar Lower Gate Street.
  • Ar hyn o bryd mae’r droedffordd yn rhy gul i fodloni’r egwyddorion dylunio ar gyfer llwybrau a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr. Nid yw’n bosib creu llwybr oddi ar y ffordd ar sail lled presennol y droedffordd. 

Defnydd Presennol

  • Mae rhai beicwyr yn defnyddio’r brif ffordd gerbydau ac yn gyfwerth â tua 1% o’r traffig sy’n llifo dros bont yr A547.
  • Dros gyfnod o bedwar diwrnod, cofnodwyd 4,178 o feicwyr a cherddwyr ar Lwybr Cenedlaethol 5 yn nhref Conwy ac ar hyd y Cob, ac roedd 13% o’r rheiny’n feicwyr. 

Treftadaeth

  • Mae’r castell canoloesol yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Gellir gweld y castell o sawl cyfeiriad, ond mae golygfa fawreddog ohono dros yr aber. Mae’n rhaid gwarchod y Safle Treftadaeth y Byd a gallai unrhyw waith i addasu’r pontydd effeithio ar ddynodiad UNESCO.
  • Mae’r bont yn rhan o Ardal Gadwraeth a Lleoliad Hanfodol y Safle Treftadaeth y Byd. Bydd y safle treftadaeth yn cyfyngu ar unrhyw waith y gellir ei wneud i addasu strwythurau presennol neu adeiladu rhai newydd.
  • Gallai addasu arwyddion, goleuadau a chelfi stryd amharu ar y safle treftadaeth hefyd. 

Yr Amgylchedd

  • Mae pont yr A547 yn mynd dros Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Afon Conwy. Bydd yn rhaid ystyried effaith unrhyw newidiadau ar y SoDdGA.

Polisi

  • Mae fersiwn diweddaraf Strategaeth Trafnidiaeth Cymru’n pwysleisio mor bwysig yw newid hinsawdd ac mae’n ailwampio’r hierarchaeth trafnidiaeth gan roi blaenoriaeth i ddulliau mwy cynaliadwy.  Mae’r cynllun hwn yn ffordd dda o gyflawni gofynion a chanlyniadau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.

Tudalen Nesaf

end content